Ar y tudalennau iawn

15 Mai 2012

Mae Mihangel Morgan, darlithydd yn Adran y Gymraeg, a Tiffany Atkinson, darlithydd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012.

Cyflwynir y Wobr i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2011 yn y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol.

Mae Dr Mihangel Morgan, sydd ar y rhestr fer am ei nofel ffuglen Gymraeg ddiweddaraf Pantglas, wedi seilio ei lyfr o amgylch trigolion y pentref dychmygol Pantglas a sut y maent yn wynebu nifer o newidiadau a thrychinebau.

Yn enedigol o Aberdâr, mae Mihangel Morgan yn darlithio mewn llenyddiaeth Gymraeg yr 20fed ganrif ac yn byw yn Nhalybont yng Ngheredigion. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda’i nofel Ddirgel Ddyn a chafodd ei gasgliad o gerddi - Digon o Fwydod - ei gynnwys ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.

Mae Dr Tiffany Atkinson ar y rhestr fer am ei chasgliad o farddoniaeth Catulla Et Al, sy’n dwyn i gof ysbryd nwydus a gwaradwyddus y bardd Lladin Catullus.

Catulla Et Al yw ail gasgliad Tiffany - cafodd ei chasgliad cyntaf, Kink and Particle, ei argymell ar gyfer y ‘Poetry Book Society’ ac enillodd Wobr Casgliad Cyntaf Jerwood Aldeburgh yn 2007. Tiffany yw golygydd barddoniaeth New Welsh Review ac mae’n cynnal gweithdai rheolaidd a darlleniadau ledled y DG.

Bydd y Wobr, a weinyddir gan Lenyddiaeth Cymru gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei chyflwyno ar ddydd Iau 12 Gorffennaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

AU15412