Codwr arian yn cario’r Ffagl

Bridget James a’r Ffagl Olympaidd.

Bridget James a’r Ffagl Olympaidd.

29 Mai 2012

Gyda ffaglau pum Gemau Olympaidd blaenorol o’i chwmpas (Llundain 1948, Munich 1972, Seoul 1988, Atlanta 1996, ac Athen 2004), derbyniodd yr hyfforddwraig ffitrwydd ac achubwraig bywyd o Brifysgol Aberystwyth, Bridget James, y fflam Olympaidd ar risiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Fe’i henwebwyd gan Glwb Athletau Aberystwyth am ei gwaith dyngarol. Cludodd Bridget y Ffagl Olympaidd o’r Llyfrgell Genedlaethol i brif fynedfa’r Brifysgol ar Riw Penglais, wrth iddi deithio tua’r gogledd i Fangor.

Gyda’i gwr Gareth, sefydlodd Bridget Apêl Elain yn 2011 wedi i’w merch, sy’n dioddef Afiechyd Calon Cynhenid a Syndrom Deletion 22q11.2, dreulio pum mis yn yr ysbyty yn 2010.

Yn ystod 2011 codwyd dros £50,000 gan yr apêl a gwnaed cyfraniadau hael i’r pedair elusen a ddarparodd ofal i’r teulu yn ei hawr anghenus -  Wallace and Gromit's Grand Appeal; Ronald McDonald House Bristol; Uned Calon Plant i Gymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Wedi iddi gwblhau ei chymal, dywedodd Bridget: “Roeddwn yn teimlo’n hynod falch o gael derbyn y fflam Olympaidd ar risiau’r Llyfrgell Genedlaethol ger bron cymaint o bobl. Carwn ddiolch i’r sawl a’m henwebodd, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at Apêl Elain. Hebddynt, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”

Mae rhagor o wybodaeth am Apêl Elain i’w gael ar-lein ar http://www.apelelain.com/.

AU17912