Canllaw ‘peidiwch poeni’ ar gyfer Clirio

Clirio 2012 - Gweithdrefn Argyfwng

Clirio 2012 - Gweithdrefn Argyfwng

15 Awst 2012

Ydych chi wedi derbyn eich canlyniadau Lefel A? Ydy'r syniad o fynd trwy Clirio yn un sy’n achosi pryder ichi? Does dim angen poeni gan fod Prifysgol Aberystwyth wedi creu canllaw fideo i’ch helpu chi i lywio eich ffordd drwy'r cyfnod anodd yma.

Gellir gwylio’r fideo ar wefan y Brifysgol http://bit.ly/QVIPs8 ac mae’n darparu cyngor ac awgrymiadau ar beth i'w wneud yn syth ar ôl cael eich canlyniadau Lefel A nes fod lle mewn prifysgol wedi ei sicrhau.

Fel yr eglura David Moyle, Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Cholegau Prifysgol Aberystwyth, "Yr ydym yn deall y gall y profiad o fynd trwy’r broses hon fod yn un straenllyd i rai. Yr ydym yn awyddus i wneud y broses mor hawdd â phosib ac i helpu’r ymgeiswyr i ddewis y cwrs cywir.

"Y cyngor gorau yn ystod clirio yw i beidio â gor-gynhyrfu. Mae'n hanfodol i ymchwilio’r opsiynau sydd ar gael yn drylwyr ac yna symud yn gyflym i sicrhau eich lle ar y cwrs o'ch dewis ac yn eich hoff brifysgol. Yn ystod y cyfnod yma, fe fydd cydweithwyr ar gael i ateb eich cwestiynnau."

I'r rhai hynny sydd am gael mwy o wybodaeth am y broses glirio a beth i'w wneud ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A, ewch at ein gwefan gyhwysfawr ar www.aber.ac.uk/info/wmclear

Mae 8000 o israddedigion yn astudio'n llawn-amser yn Aberystwyth. Mae traean ohonynt o Gymru, chwech o bod deg o weddill y DG ac Iwerddon, a'r gweddill o rannau eraill o'r byd.

AU24112