Rheolwr pêl-droed ieuengaf Prydain

Dave yn gywlio ei dîm yn brwydro am y bêl

Dave yn gywlio ei dîm yn brwydro am y bêl

21 Rhagfyr 2012

Mae myfyriwr daearyddiaeth ddynol sydd yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i benodi’n rheolwr tîm cyntaf Dolgellau Athletic, gan ei wneud y rheolwr ieuengaf o dîm pêl-droed hŷn yn hanes pêl-droed Prydain.

Dechreuodd Dave Webber, sy’n 19 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Fryste, hyfforddi dwy flynedd yn ôl pan gafodd y cyfle i gyflawni cymhwyster pêl droed lefel un drwy ei swydd fel gweithiwr ieuenctid yn dysgu plant rhwng 5-13 oed.

Meddai, "Ers hynny, rwyf wedi cael fy nghymhwyster lefel dau, a’r nod yw cael fy nhystysgrif lefel tair flwyddyn nesaf. Rwyf wir yn mwynhau fy rôl fel rheolwr yn Nolgellau.

"Rydym wedi colli llawer o chwaraewyr y tymor hwn ac felly mae'r tîm yn ifanc iawn. Nid yw'r canlyniadau hyd yma wedi bod yn wych, ond gyda rhywfaint o waith caled a dyfalbarhad, rwy'n hyderus y bydd y canlyniadau yn dod yn y Flwyddyn Newydd.

"Mae bod yn rheolwr wedi bod yn wers eithaf caled a serth ond mae'n gyffrous ac yn rhoi digon o brofiad i mi sydd beth rwyf angen i mi ddatblygu a gwella."

Yn ystod yr wythnos, mae Dave yn brysur yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Penderfynodd astudio yma oherwydd enw da'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn y Brifysgol.

Ychwanegodd, "Un o'r prif ffactorau gyda phenderfynu dod i Aber oedd enw da'r adran, ond hefyd swyn y dref ac roeddwn yn hoffi'r syniad o astudio mewn tref fach wrth y môr.

"Rwyf wedi gwneud criw da o ffrindiau yn yr amser byr rwyf wedi bod yn Aber. Rwyf hefyd yn chwarae pêl-droed cymdeithasol yn y Gynghrair Digs i dîm o'r enw Aber Kadabra, sy'n llawer o hwyl.

"Dydw i ddim yn siŵr beth fyddaf yn ei wneud gyda fy ngyrfa yn y dyfodol, ond mae un peth yn sicr - bydd pêl-droed a hyfforddiant yn rhan o fy mywyd mewn rhyw ffordd,  boed yn hobi neu’n swydd lawn-amser."

AU44812