Pump o uwch benodiadau newydd

21 Mai 2013

Mae'r Brifysgol yn cyhoeddi penodiad pum pennaeth adran academaidd newydd fydd yn hwb pellach i enw da'r Brifysgol ym maes addysgu a rhagoriaeth ymchwil. Bydd yr Athro Steven McGuire yn arwain yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, Yr Athro Chris Thomas, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a Dr Elisabeth Salter, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae Dr Jenny Mathers, a oedd yn Bennaeth Gweithredol yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi cael ei chadarnhau yn y swydd, tra bod yr Athro David Trotter, wedi cael ei benodi am gyfnod pellach fel Pennaeth Ieithoedd Ewropeaidd.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon:
"Hoffwn longyfarch pob un o'n Penaethiaid Adran newydd ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu rolau newydd. Rwy’n siŵr y bydd pob un yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad eu hadrannau. Mae'n wych bod cydweithwyr o’r fath safon yn cynnig eu hunain fel ymgeiswyr ar gyfer rolau arweinyddiaeth pwysig, gan ddarparu tystiolaeth bellach o'r cyfoeth o dalent sydd gennym o fewn y Brifysgol. "

Yr Athro Steven McGuire, Ysgol Rheolaeth a Busnes

Roedd yr Athro Steven McGuire gynt yn uwch-ddarlithydd mewn busnes rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerfaddon, ac yn 2009 yr oedd yn Athro gwadd yng Ngholeg Ewrop. Mae'n aelod o fwrdd Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru ac mae wedi dysgu ar raglenni datblygu gradd gweithredol yn Ysgol Rheolaeth Nantes Audencia, Prifysgol Caerfaddon ac Ysgol Rheolaeth Vlerick Leuven Gent. Mae ei ddiddordebau ymchwil mewn ardaloedd o economi wleidyddol ryngwladol, busnes rhyngwladol a gweithgareddau gwleidyddol corfforaethol. Mae hefyd wedi ysgrifennu'n helaeth ar bolisi technoleg yn Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Yr Athro Chris Thomas, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Mae’r Athro Thomas yn dal Cadair Modelu Ecolegol CIRRE (Canolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig) ac mae'n gyn Gyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol yn IBERS. Mae ei faes ymchwil wedi ei arwain i anialwch y dwyrain canol hyd Arctig Scandinafia yn ogystal â rhai o ardaloedd gwyllt y DU, ond mae'r rhan fwyaf o'i waith ar hyn o bryd yn Affrica. Mae'r ymchwil hwn yn canolbwyntio ar glefydau a newid yn yr hinsawdd: mae un o'i brosiectau ar hyn o bryd yn gweithio gyda chydweithwyr yn GES i ymchwilio i'r berthynas rhwng hydroleg a throsglwyddo malaria mewn yn Tanzania.

 

Dr Jenny Mathers; Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Dr Jenny Mathers yn raddedig o Goleg Mount Holyoke yn yr Unol Daleithiau a Choleg Somerville, Prifysgol Rhydychen. Ymunodd Dr Mathers â’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1992. Mae ei addysgu ac ymchwil yn rhychwantu dau faes eang: gwleidyddiaeth a diogelwch Rwsia; a rhyw a rhyfel. Mae ei gwaith cyhoeddedig yn mynd i'r afael â phynciau megis arfau niwclear, gwrthdaro Rwsia yn Chechnya a menywod sy'n gwasanaethu fel milwyr ym myddinoedd y wladwriaeth.

Dr Elisabeth Salter, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol


Mae gan Dr Elisabeth Salter ddoethuriaeth o Brifysgol Caint ac mae ei diddordebau ymchwil a chyhoeddiadau yn ymwneud â'r defnydd o destun yn y canol oesoedd a chyfnod modern cynnar Cymru a Lloegr, ac yn fwy cyffredinol â chreadigrwydd diwylliannol mewn cyd-destun trawshanesyddol. Mae hi wedi gweithredu fel Cyfarwyddwr Adran Dysgu ac Addysgu am nifer o flynyddoedd ac yn cymryd rhan mewn gwahanol fentrau cydweithredol, gan gynnwys 'The Mostyn Project' a sefydlodd fel cydweithrediad rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Mae Elisabeth wedi cynnal prosiect arolygu a ariennir ar gyfer y Rhwydwaith Gwybodaeth Ymchwil, goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig sy’n derbyn cyllid Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac mae'n rhan o brosiect ar y cyd ar draws Ewrop ar newid profiadau crefyddol lleyg yn y gymdeithas Canoloesol a Modern Cynnar.

Yr Athro David Trotter, Ieithoedd Ewropeaidd.

Mae’r Athro David Trotter yn arbenigwr ar hanes Ffrainc, ac yn Gyfarwyddwr y prosiect Geiriadur Eingl-Normanaidd, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ers 2001, ac mae bellach yn cyflogi tri cynorthwywyr ymchwil. Mae wedi cyhoeddi 85 pennod ac erthygl, a nifer o lyfrau (wedi'u golygu ac ar ei ben ei hun), ac wedi rhoi dros gant o ddarlithoedd a phapurau yn rhyngwladol, yn ymwneud â gwahanol agweddau ar hanes yr iaith Ffrangeg. Ar hyn o bryd mae’n Is-Lywydd y Société de Linguistique Romane (ers 2010); yn aelod o Goleg Adolygiad Cymheiriaid, a Adolygydd Strategol ar gyfer yr AHRC. Mae wedi adolygu cynigion ymchwil ar gyfer y DU, cynghorau ymchwil Iwerddon, Awstria, yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc a Chanada, ac mae wedi cynnal gwerthusiadau ymchwil yn Ffrainc (Aeres) a'r Almaen (pedwar gwerthusiad o brosiectau geiriadur hir-dymor yn Heidelberg a Munich). Mae wedi bod yn Bennaeth Adran ers 1993, ac yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau rhwng 1996-2000.