Llwyddiant mawr diwrnod agored

Luned Roberts (dde) o IBERS yng nghwmni trigolion lleol yn niwrnod agored i’r gymuned Prifysgol Aberystwyth, Mynediad Am Ddim.

Luned Roberts (dde) o IBERS yng nghwmni trigolion lleol yn niwrnod agored i’r gymuned Prifysgol Aberystwyth, Mynediad Am Ddim.

24 Mehefin 2013

Ymwelodd mwy na 400 o bobl â Phrifysgol Aberystwyth ar ei diwrnod agored i’r gymuned, Mynediad am Ddim, gafodd ei chynnal ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin.

Roedd amrywiaeth eang o weithgareddau, arddangosfeydd ac arddangosiadau i’w gweld yn ystod y dydd, oedd yn tynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd yn y Brifysgol.

Bu digwyddiad BeachLab ar y Bandstand yn llwyddiant mawr yn ogystal, gan ddenu llawer o deuluoedd ac unigolion a oedd â diddordeb mewn robotiaid yr Adran Gyfrifiadureg a'r gerddorfa roboteg a wnaed o hen offerynnau ac a reolir gan ddau gyfrifiadur bychan Raspberry Pi.

Manteisiodd llawer hefyd ar y teithiau tywys o amgylch y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol newydd sydd wedi’i leoli yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yng Ngogerddan.

Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys perfformiadau cerddorol, dosbarthiadau micro, teithiau, arbrofion, sesiynau chwaraeon, arddangosiadau coginio, peintio wynebau a gemau ar y we.

Esboniodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, "Rydym yn hynod falch o’r ymateb i ddiwrnod agored i’r gymuned cyntaf y Brifysgol a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod. Holl bwrpas Mynediad Am Ddim oedd agor drysau’r Brifysgol i’r gymuned leol a chynnig cyfle iddynt ddysgu llawer mwy am y gwaith ymchwil eithriadol ddiddorol sydd yn cael ei wneud yma a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rydym yn nawr yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant gwych a brofwyd eleni ar gyfer diwrnodau agored cymunedol eraill yn y dyfodol.”

Profodd gŵyl MidMad yng Nghanolfan y Celfyddydau, digwyddiad cerddoriaeth flynyddol sy’n rhad ac am ddim ar lwyfan y llys capel, hefyd yn llwyddiant mawr ymysg trigolion lleol a phobl sy’n hoff o gerddoriaeth.

Ymwelodd dros 3,000 o bobl â’r digwyddiad yn ystod y prynhawn a gyda’r hwyr gan fwynhau cerddoriaeth fyw ar lwyfan MidMad. Ymysg y bandiau a fu’n perfformio roedd y Bhagdaddies, PigBag a Sound Assembly. ‘Arms Like Legs’ fu’n llwyddiannus yn Bandslam, y gystadleuaeth i fandiau lleol.

AU22613