Campws arloesi £35m

Campws Gogerddan

Campws Gogerddan

21 Gorffennaf 2013

Heddiw, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth y bwriad i fuddsoddi £35m er mwyn datblygu Campws Ymchwil ac Arloesedd newydd yng Ngogerddan.

Bydd y campws yn cael ei adnabod fel Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu.

Mae'r datblygiad wedi ei wneud yn bosibl gan fuddsoddiad o £14.5m gan y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth Biotechnoleg a Biolegol (Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC) a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 22 Gorffennaf) gan David Willetts AS, Gweinidog y Deyrnas Gyfunol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth mewn lansiad Strategaeth Amaeth-Dechnoleg Llywodraeth y DG.

Disgwylir i gyfraniadau gan randdeiliaid eraill, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, i ddod â chyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect hwn i dros £35M.

Dywedodd y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts: “Mae gan Brydain y potensial i arwain y byd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg amaethyddol, ac eto mae twf ein cynhyrchiant wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Bydd y safleoedd blaengar yma yn gymorth i wyrdroi'r duedd honno drwy gael ein hymchwilwyr a’n busnesau i weithio gyda'i gilydd er mwyn masnacheiddio eu syniadau. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ein heconomi a diogelwch bwyd yn y dyfodol, a dyna pam yr ydym yn lansio'r Strategaeth Amaeth-Dechnoleg."

Bydd y BBSRC yn buddsoddi hyd at £14.5m er mwyn cynorthwyo i sefydlu Campws Aberystwyth a gyfer Arloesi a Lledaenu ar gyfer bwyd ac ynni adnewyddadwy a bydd yn bartner allweddol wrth wireddu’r prosiect arloesol hwn.

O’r cyfanswm a fuddsoddir, clustnodwyd hyd at £ 2.5m i ddatblygu Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran, adnodd unigryw a fydd yn canolbwyntio ar ehangu a gwella amaethyddiaeth yr ucheldir drwy ymchwil arloesol, hyfforddiant a datblygu. (Mae’r datblygiad hwn yn ddibynnol ar gytuno’n derfynol ar y les gyda Llywodraeth Cymru).

Bydd Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu yn dod â budd mawr i'r economi ac i gymdeithas, o'r lleol i'r byd-eang, drwy harnesu’r adnoddau naturiol unigryw o bobl a lle a’r galluoedd rhyngddisgyblaethol sydd gan Aberystwyth i’w cynnig.

Bydd isadeiledd a chyfleusterau newydd yn cael eu datblygu i ddenu cwmnïau ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn creu cynnyrch masnachol llwyddiannus sydd yn seiliedig ar ddulliau modern o fridio planhigion.

IBERS yng Ngogerddan yw cartref y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol gwerth £6.8m a dderbyniodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru a BBSRC. Cafodd y Ganolfan, sy'n cynnwys tŷ gwydr ymchwil mwyaf datblygedig y Deyrnas Gyfunol, ei hagor ym mis Mai 2012.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae hyn yn newyddion gwych i Aberystwyth ac i'r Brifysgol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda'r BBSRC wrth gyflawni’r prosiect gwych hwn, gan adeiladu ar ein profiadau cadarnhaol iawn gydag adeiladau newydd IBERS a'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol.

"Bydd y Campws newydd yn hwb i’n cvdweithio â busnesau, gan gynnwys darparu gofod i gwmnïau sy’n cychwyn, ac yn ein galluogi i gynnig hyfforddiant rhyngddisgyblaethol newydd. Mae cysylltiad agos rhwng y buddiannau yma ac amcanion ein Cynllun Strategol  a byddant yn datblygu ymhellach apêl y rhan eithriadol hon o Gymru.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn bleidlais o hyder yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yma yn IBERS, a bydd yn ein galluogi i adeiladu ar dreftadaeth y safle hwn, ac i hybu ymhellach ein enw da fel arweinwyr byd mewn ymchwil amaethyddol drosiadol.

"Amaethyddiaeth yw conglfaen rhai o'r prif heriau sy'n wynebu cymdeithas yn yr 21ain ganrif, a’n gweledigaeth ni yw trosi’r heriau mawr yma – diogelwch bwyd, dŵr ac ynni – yn gyfleoedd cynaliadwy a ffyniannus i gymdeithas, gan gydnabod y bydd gan arloesi mewn amaethyddiaeth rôl hanfodol wrth feithrin bio-economi sy'n seiliedig ar wybodaeth.”

Bydd Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu yn cynnwys canolfan hyfforddi sy'n canolbwyntio ar fasnach, a bydd yn galluogi nifer o adrannau o fewn y Brifysgol i weithio gydag IBERS i ddatblygu’r bio-economi.

Bydd hefyd yn cynnwys llwyfan ar gyfer ymchwil i’r ucheldir ar gyfer y DG, a Phartneriaeth-Cyhoeddus-Preifat-Cynhyrchwyr ar gyfer Diogelwch Bwyd ac Ynni wedi ei adeiladu o amgylch canolfan fridio planhigion arloesol sy’n wynebu busnes ac sy’n cynnwys adnodd cenedlaethol ar gyfer mesur gwerth cynnyrch newydd yn annibynnol.

Mae disgwyl i’r gwaith o ddatblygu Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu ddechrau yn 2014 a’i gwblhau erbyn mis Mawrth 2015.

Prifysgol Aberystwyth yw’r sefydliad sy’n elwa fwyaf o’r cyhoeddiad hwn gan David Willetts AS, Gweinidog y Deyrnas Gyfunol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth.

O’r £30m sydd yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DG mewn ystod o gynlluniau arloesol a chyffrous ar draws y DG, mae Campws Aberystwyth a gyfer Arloesi a Lledaenu yn derbyn hyd at £14.5m, Canolfan Ymchwil a Menter Rothamsted yn derbyn hyd at £8.2m, Campws Easter Bush (Caeredin) yn derbyn hyd at £5m a Pharc Ymchwil Norwich yn derbyn hyd at £2.5m.

AU11813