Hyrwyddo defnydd iaith

Dr Rhodri Llwyd Morgan

Dr Rhodri Llwyd Morgan

14 Chwefror 2014

Mae ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i lunio cynllun strategol cyfannol ar gyfer hyrwyddo a hybu’r Gymraeg yn cynnig cyfle i arloesi yn ôl Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, Dr Rhodri Llwyd Morgan.

Daeth y penderfyniad i lunio cynllun cyfannol i hyrwyddo’r Gymraeg yn dilyn cyhoeddi adroddiad i effaith ieithyddol symud llety Cymraeg penodedig y Brifysgol o Bantycelyn i Fferm Penglais.

Prif gasgliad yr adroddiad annibynnol gan gwmni Iaith: y Ganolfan Cynllunio Iaith oedd na fyddai’r symud yn cael effaith negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg gan y myfyrwyr, ac y dylai’r Brifysgol fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau presennol i greu ardal breswyl benodedig Gymraeg fel rhan o ddatblygiad llety myfyrwyr Fferm Penglais.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad i sefydlu Canolfan Gymraeg newydd yng nghanol y prif gampws i hybu  gweithgareddau Cymraeg ymhlith myfyrwyr a staff y Brifysgol ac i’r gymuned ehangach yn ogystal.

Eisoes mae Pwyllgor Strategaeth y Gymraeg y Brifysgol wedi cymeradwyo’r penderfyniad, ac wedi dechrau ar y dasg o lunio’r cynllun cyfannol.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan; “Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg er 2003 ac mae’r ddarpariaeth cyrsiau Cyfrwng Cymraeg hefyd yn ehangu, ond mae’r ymrwymiad i lunio cynllun strategol cyfannol i’r Gymraeg yn cynnig cyfle arloesol i gynllunio ar gyfer darpariaethau sy’n hyrwyddo a hybu’r Gymraeg – agweddau sy’n mynd y tu hwnt i’r Cynllun Iaith a’r ddarpariaeth academaidd.”

“Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddatblygu cynllun sy’n unigryw i Brifysgol Aberystwyth”

Ers Awst 2013 mae’r Brifysgol wedi cymryd camau gweinyddol o bwys er mwyn datblygu agweddau o ddwyieithrwydd.

Cyflwynwyd strategaeth sgiliau iaith sydd yn golygu fod gofynion ieithyddol pob swydd bellach yn cael eu pennu mewn modd systematig er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn meddu ar y sgiliau ieithyddol angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

Penodwyd Cyfarwyddwyr y Gymraeg a Diwylliant ym mhob un yn o’r saith Athrofa academaidd newydd a ddaeth i fodolaeth ar y cyntaf o Awst 2013.

Bu hwn yn gam arloesol gan ei fod yn rhoi pencampwr penodol dros y Gymraeg ym mhob Athrofa ac yn cefnogi arbenigedd perthnasol yn yr Athrofeydd, rhywbeth nad sydd wedi bodoli o’r blaen.

Ychwanegodd Dr Morgan: “Mae’r ymrwymiad i greu Cynllun Cyfannol ar gyfer y Gymraeg  yn cynnig cyfle i gyd-gysylltu’n well rhwng yr elfennau gweinyddol, academaidd a chwricwlaidd gyda sylw ychwanegol ar yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol. Byddai hefyd yn fodd o bontio rhwng y myfyrwyr a’r staff, a’r gymuned ehangach.”

Mae copi o’r adroddiad gan y Ganolfan Cynllunio Iaith, “Asesiad Effaith Ieithyddol lleoli llety Cymraeg penodedig yn rhan o ddatblygiad Fferm Penglais” ar gael yma http://jump.aber.ac.uk/?htmq.

AU7214