Cyfle i drafod y tywydd

Llifogydd mawr 2012

Llifogydd mawr 2012

23 Mawrth 2014

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae tywydd eithafol wedi taro gorllewin Cymru. Ai rhywbeth dros dro yw hyn neu ai dyma ddechrau rhywbeth newydd?

Mae Darogan yn berfformiad wedi’i gomisiynu gan y fenter gymdeithasol leol, Ymlaen Ceredigion, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth. Fe’i crëwyd gan y dramodydd Sarah Woods* gyda’r nod o sbarduno trafodaeth ar dywydd eithafol a newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys ein profiadau a’n hymatebion ni.

Bydd y perfformiad yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl leol fel Mick Fothergill o Dal-y-bont: “Roeddem ni’n credu ein bod yn adnabod yr afon ar ôl ei gweld yn newid mewn amryw ffyrdd ar hyd y blynyddoedd, ond fe welsom ni afon dra gwahanol y noson honno…”

Meddai’r arbenigwr ar afonydd a hinsawdd, Mark Macklin, sydd hefyd yn cael ei gyfweld: “Mae gen i ddeg ar hugain o flynyddoedd i weld y sefyllfa’n datblygu. Bydd lefel y môr yn dal i godi, does neb yn medru cytuno o faint, ond gallai fod yn ddegau o gentimedrau… Bydd yn rhaid mynd ati i wneud rhywbeth am hyn, a bydd angen dod at ein gilydd a rhoi meddyliau ar waith mewn ffordd nad ydyw wedi digwydd o’r blaen.”

Bydd y digwyddiad yn rhan o brosiect y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Defnyddir dealltwriaeth o seicoleg fel cyfrwng i esbonio gwyddoniaeth yr hinsawdd yn effeithiol. “Wrth geisio siarad am newid yn yr hinsawdd, un broblem yw ei fod yn fater cymhleth, ac yn rhywbeth sy’n mynd i ddigwydd yn rhywle arall ryw amser arall, nid yw’n ymddangos ein bod yn medru dirnad hynny,” meddai Rachel Lilley, ymchwilydd gwyddorau cymdeithasol a chyfarwyddwr Ymlaen Ceredigion.

“Wrth adrodd stori leol, berthnasol a seml gallwn wneud gwyddoniaeth yr hinsawdd yn beth real ac ystyrlon. Bydd sbarduno trafodaeth agored yn rhoi’r cyfle i bobl ddod i ddeall eu profiadau eu hunain o dywydd eithafol,” meddai.

Caiff y cyfweliadau a wneir yn y perfformiadau eu ffilmio a’u troi’n gyfanwaith i’w ddangos yn ddiweddarach eleni a fydd yn mynegi teimladau, safbwyntiau a phrofiadau’r gymuned gyfan.

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Bydd te a bisgedi ar gael yn y perfformiadau yn ystod y dydd, a gyda’r nos bydd gwydraid o win a lluniaeth ysgafn.

Dydd Mawrth 25 Mawrth
•    1-2pm Prifysgol Aberystwyth, Penbryn, Medrus 1 1-2pm
•    7-8pm Amgueddfa Ceredigion, 7-8pm

Dydd Mercher 26 Mawrth
•    12.45-1.45pm Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Ystafell 1
•    7-8pm Neuadd Goffa Tal-y-bont.

* Mae gwaith Sarah Woods wedi’i gynhyrchu gan yr RSC, a’r BBC ar deledu a radio. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres pum rhan ar gyfer Woman’s Hour ar BBC Radio 4.

AU11514