Urddo D Geraint Lewis yn Gymrawd

Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones, yn cyflwyno D Geraint Lewis yn Gymrawd

Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones, yn cyflwyno D Geraint Lewis yn Gymrawd

14 Gorffennaf 2014

Mae’r awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg gyda Chyngor Sir Ceredigion, D Geraint Lewis, wedi ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Yn wreiddiol o Ynys-y-bwl yng Nghwm Clydach, derbyniodd D Geraint Lewis ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ef yw awdur Geiriadur Cynradd Gomer, Y Llyfr Berfau, Pa Arddodiad?, Y Treigladur, a Geiriau Lletchwith.

Mae wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Er Anrhydedd Cyngor Llyfrau Cymru ers 1986 ac enillodd wobr Tir na n-Og yn 1996 am ei eiriadur Geiriadur Gomer i’r Ifanc.

Cafodd ei gyflwyno gan Dr Mari Elin Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn ystod y gyntaf o seremoniau graddio 2014 a gafodd ei chynnal ar fore Llun 14 Gorffennaf.

Cyflwyniad i D Geraint Lewis fel Cymrawd Prifysgol Aberystwyth gan Dr Mari Elin Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Madam Is-Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyflwyno Mr D Geraint Lewis.

“Nid pawb sy’n gwirioni’r un fath”, dyna eiriau D Geraint Lewis wrthyf pan gysylltais ag ef i drafod y seremoni hon. A diolch bod yr ysgolhaig hwn wedi gwirioni gymaint ar eiriau, ymadroddion a gramadeg y Gymraeg gan roi inni gyfoeth o adnoddau o’r [Fy] Llyfr Geiriau Cyntaf i’r Llyfr Berfau a’r Treigladur, heb sôn am eglurhad o’r [Y] Geiriau Lletchwith! Mae’r cyfrolau hyn, ymhlith cyhoeddiadau eraill ganddo, yn gyfeirlyfrau gwerthfawr ar ddesg pob myfyriwr, athro, cyfieithydd, academydd a gweinyddwr sy’n parchu’r iaith ysgrifenedig. Mae’n fraint cael ei groesawu ef a’i deulu i’r seremoni hon heddiw.

Geraint Lewis has made an invaluable contribution to Welsh lexicography, and his numerous publications are a labour of love and testament to his mission and enthusiasm in presenting the Welsh language and its grammar to children and adults alike.

Geraint was born in Ynys-y-bŵl, a coal mining village near Pontypridd, South Wales. Welsh was replaced by English as the language of the home following his sister’s experience as a patient in a prestigious children’s hospital in England where no one understood her when she asked for a drink of water in Welsh.  

Roedd hwnnw’n ddigwyddiad arwyddocaol a newidiodd iaith ei blentyndod ond, wrth gwrs, nid oedd Geraint a’i deulu yn eithriadau yn ystod y cyfnod hwnnw pan gollodd cenhedlaeth o blant eu mamiaith. Yr hyn oedd yn unigryw am Geraint oedd bod geiriau ac iaith yn bwysig iddo, a phwy a wŷr na fu’r newid ieithyddol cynnar hwn yn ysgogiad iddo, maes  o law, i fynd i’r afael â hynodrwydd y Gymraeg.

His experience as a Welsh learner has made him very aware of aspects of the Welsh language which may appear completely obvious to first language speakers, but which are mystifying for Welsh learners. This is what drives him to provide support and explanation through his work.

Yng Nghapel Tabernacl yr ysbrydolwyd Geraint a’i gyfoedion i afael yn y Gymraeg yr oeddynt mewn perygl o’i cholli. Yr oedd cerddoriaeth a’r capel yn ddylanwadau mawr arno, ac yn parhau felly. Blodeuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, a than ddylanwad ei athro cerddoriaeth, Haydn Wyn Davies, treuliai ei wyliau ysgol ar gyrsiau cerddorol amrywiol gan ennill lle yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru yn canu’r Corn Ffrengig. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae cyfrolau cerddoriaeth a chyfrolau am gerddoriaeth, megis Awn i Fethlem, Wrth y Preseb a Clychau’r Nadolig – caneuon a charolau y mae plant o Fôn i Fynwy yn gyfarwydd â’u canu mewn cyngherddau Nadolig.

Geraint is a talented French Horn player, and one of the founding members and currently Vice-President of Philomusica, Aberystwyth’s Symphony Orchestra. During his time as Chairman of the Philomusica he made an important contribution in bringing the orchestra under the auspices of the University – bringing town and gown together, and assisting in providing music bursaries for students. He has published a Kindle E-book, satirising the art of horn playing, entitled “’When all else fails’ – a Horn players vade mecum” in which he writes:

“Striking the correct note on the horn is akin to the strategy for winning a battle.  In order to achieve one’s objective, one must first occupy a good deal of the surrounding territory.”

Ond dilyn trywydd iaith a llenyddiaeth Gymraeg a wnaeth Geraint yn academaidd ac fe’i perswadiwyd i ddilyn ôl troed ei athro Cymraeg, Aneurin Jones, i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac i gynnig am le ar gwrs newydd arbrofol ar gyfer dysgwyr dan ofal Dr E G Millward. Yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth, y daeth Geraint i werthfawrogi gwaith beirdd mawr Cymru ddechrau’r Ugeinfed Ganrif – T Gwynn Jones a T H Parry-Williams – ac wrth gwrs, cafodd gyfle i ddysgu wrth droed un o feirdd cyfoes a phwysicaf y cyfnod, Gwenallt. Derbyniodd swydd yn Llyfrgell Ceredigion a dyna bryd y cyfarfu â’i arwr mawr, y diweddar Alun R Edwards.  

After completing a degree in Welsh on an innovative course for Welsh learners in the Department of Welsh, in Aberystwyth, Geraint gained professional qualifications as a Librarian in the College of Librarianship Wales, here in Aberystwyth. He worked as Ceredigion Schools Librarian, Dyfed Education and Children’s Librarian and latterly as Assistant Director of Education responsible for cultural services in Ceredigion.

Bu’n Gadeirydd Panel Llenyddiaeth Plant Pwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau, Cadeirydd gwahanol Bwyllgorau a phaneli llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn 1986 olynodd ei arwr, Alun Edwards, fel Ysgrifennydd Mygedol y Cyngor Llyfrau. Un uchafbwynt oedd ennill Gwobr Tir Na ‘Nog am ei waith, Geiriadur Gomer yr Ifanc, gwobr haeddiannol sy’n gydnabyddiaeth o’r cyfraniad sylweddol y mae wedi ei wneud i lythrennedd a llenyddiaeth plant.

Geraint has some sixteen publications on Welsh grammar and lexicography to his name and even though he has now retired he is not idle! He is currently working on three new dictionaries which will be published this summer – Geiriadur Pinc a Glas Gomer and Geiriadur Mor, Mwy, Mwyaf Gomer for children, and A Welsh Reading Dictionary which lists the 10,000 most used Welsh words for readers who do not understand much Welsh.

Mae’n cydweithio â’i fab, Nudd, sydd wedi llunio meddalwedd cyfrifiadurol sy’n dygymod am y tro cyntaf â holl ffurfdroadau’r Gymraeg er mwyn cyhoeddi’r geiriadur electronig, Y Gweiadur. Maent hefyd yn gweithio ar gyfrol sylweddol a phwysig i CBAC, Geiriadur Cymraeg Gomer, ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Chweched Dosbarth. Bydd y gwaith hwn yn rhoi’r arfau ieithyddol i annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg yn y Prifysgolion.

This is the first of two ceremonies to celebrate Geraint’s contribution this summer as he will be made an honourable member of Gorsedd y Beirdd, the Gorsedd of Bards, at the National Eisteddfod in August. 

Gwisg go wahanol fydd ganddo yn Llanelli!

Mae Geraint Lewis wedi cyfrannu gymaint i’w filltir sgwâr, i’w wlad ac i’w iaith a diolch iddo am y gymwynas fawr honno. Mae’n anrhydedd cael ei gyflwyno yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Madam Is-Lywydd. Mae’n fraint ac yn bleser gennyf gyflwyno i chi, Mr D Geraint Lewis, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Madam Vice-President. It is an honour and pleasure to present to you, Mr D Geraint Lewis, as a Fellow of Aberystwyth University.

Diwedd

Mae un ar ddeg o Gymrodyr yn cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill yw:

  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU28714