Urddo Jeremy Bowen yn Gymrawd

Jeremy Bowen yn Gaza

Jeremy Bowen yn Gaza

15 Gorffennaf 2014

Urddwyd y newyddiadurwr a chyflwynydd teledu uchel ei fri, Jeremy Bowen, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, dydd Mawrth 15 Gorffennaf.

Ganwyd Jeremy Bowen yng Nghaerdydd, ac ar ôl graddio o UCL a Phrifysgol John Hopkins, ymunodd â'r BBC yn 1984.

Wedi treulio llawer o'i yrfa'n ohebydd rhyfel, daeth yn ohebydd y BBC i'r Dwyrain Canol yn 1995, gan weithio o Jerwsalem tan 2000.

Ers 2005 ef yw Golygydd y BBC i'r Dwyrain Canol ac mae wedi cyflwyno adroddiadau o fwy na 70 o wledydd, a hynny yn aml o ganol maes y gad.

Pan oedd yn gweithio yng Nghosofo yn 1999 fe ladratwyd oddi wrtho gan wylliaid arfog. Ym mis Gorffennaf 2013, wrth iddo adrodd am y gwrthdystio yn yr Aifft fe'i saethwyd yn ei ben.

Roedd ymhlith yr ychydig newyddiadurwyr a fu'n gweithio ar yr argyfwng yn Syria yn ddiweddar.

Oherwydd ymrwymiadau gwaith – mae ar hyn o bryd yn adrodd i’r BBC o’r gwrthdaro yn Gaza – nid oedd modd iddo fynychu’r seremoni.

Ond, ychydig oriau cyn decrhau’r seremoni, recordiodd neges a gafodd ei dangos i’r cynulliad yn Aberystwyth. Ynddi mae’n diolch am yr anrhydedd ac yn llongyfarch y rhai sy’n graddio, ac yn nodi tristwch y prinder cyfleoedd i astudio mewn llawer o’r ardaloedd y Dwyrain Canol lle bu’n gweithio.

Cyflwynwyd Jeremy Bowen gan Dr Madeline Carr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ddydd Mawrth 15 Gorffennaf.

Mae Jeremy Bowen yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth

AU28914