Urddo cyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yr Unol Daleithiau

Yr Athro Bonnie Buntain

Yr Athro Bonnie Buntain

18 Gorffennaf 2014

Cafodd yr Athro Bonnie Buntain, cyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau ei hurddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Bellach, mae’r Athro Buntain yn Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada.

Tra’n Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio yr Unol Daleithiau roedd yr Athro Buntain yn rhoi cyngor i'r Swyddfa Gweithrediadau Maes ar yr holl faterion milfeddygol perthnasol i ddiogelwch bwyd, lladd ac ymdrin ag anifeiliaid heb greulondeb, yn ogystal â materion cyflogaeth, recriwtio a chadw milfeddygon iechyd cyhoeddus.

Cafodd yr Athro Buntain ei graddau Baglor yn y Gwyddorau a Meistr yn y Gwyddorau o Brifysgol Hawaii ac fe enillodd ei Ddoethuriaeth Milfeddygaeth yn 1977 o Brifysgol Talaith Colorado.

Cyflwynwyd yr Athro Bonnie Buntain gan yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Ansawdd Academaidd, ar ddydd Iau 17 Gorffennaf.

Mae’r Athro Buntain yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU29414