Fforwm Llenyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth

05 Ebrill 2016

Bydd cyhoeddwyr a chyfieithwyr, beirdd, awduron a threfnwyr gwyliau llenyddol o bob cwr o Ewrop a thu hwnt yn ymgasglu yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2016 ar gyfer Fforwm Llenyddiaeth Rhyngwladol ar Ddatblygu Cynulleidfaoedd.

Dros gyfnod o ddeuddydd, bydd y fforwm yn trafod adeiladu’r gynulleidfa ar gyfer cyfieithiadau llenyddol, rhannu arferion gorau a datblygu dulliau arloesol o gyrraedd mwy o bobl.

Ymhlith y prif siaradwyr mae un o awduron mwyaf blaenllaw Gwlad yr Iâ, Sjǿn; Vinutha Mallya o gynhadledd Publishing Next yn India; yr awdur arobryn Patrick McGuinness a Chyfarwyddwr PEN Lloegr, Jo Glanville.

Mae dwy o sesiynau arbennig y Fforwm yn agored i’r cyhoedd. Yn y Llyfrgell Genedlaethol nos Wener 15 Ebrill, bydd cyfle i gael cipolwg cynnar ar ambell glip o’r ffilm nodwedd Y Llyfrgell pan fydd yr awdur Fflur Dafydd yn siarad am yr her o droi ei nofel yn sgript ar gyfer y sgrîn fawr. Yn ymuno gyda hi bydd yr awdur Caryl Lewis a ysgrifennodd y sgript ar gyfer ffilm yn seiliedig ar ei nofel Martha, Jac a Sianco, ac sydd hefyd wedi trosi sgriptiau i’r Gymraeg ar gyfer cyfres dditectif Y Gwyll.

Am 11:30 fore Sadwrn 16 Ebrill, bydd Patrick McGuinness yn rhoi darlith gyhoeddus yn yr Hen Goleg. Daw teitl y ddarlith o gofiant yr awdur Other People’s Countries sy’n sôn am ei blentyndod yn nhref Bouillon yng Ngwlad Belg ac a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn (Saesneg) yn 2015.

Y Fforwm Llenyddiaeth Rhyngwladol ar Ddatblygu Cynulleidfa yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau llenyddol sy’n cael eu cynnal fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw – prosiect sy’n cael ei gydlynu o Brifysgol Aberystwyth gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.

Daw’r prosiect ag 16 o ganolfannau a gwyliau llenyddol blaenllaw Ewrop at ei gilydd a’r nod dros gyfnod o ddwy flynedd yw amlygu cyfoeth ac amrywiaeth tirlun llenyddol Ewrop, datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer cyfieithiadau llenyddol a hyrwyddo talent newydd rhagorol.

Mae’r Fforwm hefyd yn nodi penblwydd Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) yn 15 oed. Fe’I sefydlwyd yn rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2001 i hyrwyddo cyfieithu a chyfnewid llenyddiaeth. Ers hynny, mae wedi trefnu oddeutu 1,000 o ddigwyddiadau, gan weithio gyda 2,500 o lenorion mewn 60 o ieithoedd a 75 o wledydd. 

Caiff y Fforwm Llenyddiaeth Rhyngwladol ar Ddatblygu Cynulleidfaoedd ei arwain gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw a’i gyd-ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru trwy Swyddfa Ewrop Greadigol y DG – Cymru.

Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau: Platfform Ewropeaidd ar gyfer Cyfnewid Llenyddiaeth, Cyfieithu a Thrafod Polisi yw Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau. Cafodd ei sefydlu yn 2001 fel rhan o Sefydliad Mercator ar gyfer y Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae wedi cael cefnogaeth gan raglenni diwylliant yr Undeb Ewropeaidd ers y dechrau (www.lit-across-frontiers.org).

Ewrop Lenyddol Fyw: Prosiect yw hwn sy’n dwyn ynghyd 16 o ganolfannau a gwyliau llenyddol o bob cwr o Ewrop i feithrin ac annog gweithgaredd sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth tirwedd llenyddol Ewrop. Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yw cydlynydd y prosiect sy’n cael ei ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol y Comisiwn Ewropeaidd, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy Swyddfa Ewrop Greadigol y DU - Cymru.

AU12516