Cynllun doethuriaeth newydd i bobl broffesiynol sy’n gweithio

Myfyrwyr o’r Emiradau Arabaidd Unedig sy’n dilyn rhaglen ddoethuriaeth broffesiynol Prifysgol Aberystwyth yng nghwmni rhai o uwch swyddogion o’r Brifysgol

Myfyrwyr o’r Emiradau Arabaidd Unedig sy’n dilyn rhaglen ddoethuriaeth broffesiynol Prifysgol Aberystwyth yng nghwmni rhai o uwch swyddogion o’r Brifysgol

24 Ionawr 2017

Mae grŵp o 16 o fyfyrwyr o'r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) yn Aberystwyth yr wythnos hon ar gyfer dechrau rhaglen ddoethuriaeth broffesiynol sydd newydd gael ei hail-lansio gan y Brifysgol.

Mae'r cynllun wedi ei anelu at bobl broffesiynol sy'n awyddus i astudio am ddoethuriaeth tra'n parhau i weithio.

Bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr o'r Emiradau Arabaidd Unedig yn dilyn cwrs dysgu cymysg a fydd yn cynnwys pedwar ymweliad preswyl ag Aberystwyth yn ogystal â dysgu o bell.

Bydd eu hymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar feysydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheolaeth Busnes.

Caiff y prosiect ei arwain gan yr Athro Judy Broady-Preston, Cyfarwyddwr yr Athrofa Datblygiad Proffesiynol, gyda’r Athro Reyer Zwiggelaar, Pennaeth Ysgol Graddedigion Aberystwyth, yn gyfrifol am ddatblygu a darparu’r cynllun.

Dywedodd yr Athro Broady-Preston: “Bwriad ein Doethuriaeth Broffesiynol sydd newydd ei hail-lansio yw caniatáu i weithwyr proffesiynol cymwys astudio am ddoethuriaeth tra'n parhau mewn gwaith ac i gynnal ymchwil ar lefel ddoethur, a all fod yn seiliedig ar eu gwaith proffesiynol. Mae’n dull cyfunol o ddysgu yn golygu bod modd i bobl sy'n gweithio i blethu eu hastudiaethau gyda ffordd o fyw prysur - lle bynnag maen nhw’n byw.

"Rydym yn falch iawn i groesawu ein carfan gyntaf o Emiradau Arabaidd Unedig yr wythnos hon ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros gyfnod o bum mlynedd o astudio."

Dywedodd yr Athro Zwiggelaar: "Mae ein Doethuriaeth Broffesiynol yn seiliedig ar nifer o fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf, sy'n cwmpasu hyfforddiant ymchwil generig ac ymchwil seiliedig ar waith. Caiff hyn ei ddilyn gan brosiect ymchwil sy’n seiliedig ar waith yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, ac a fydd yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos gydag arolygydd o’r Brifysgol.

“Caiff doethuriaeth broffesiynol ei dyfarnu i gydnabod cwblhau yn llwyddiannus rhaglen gydnabyddedig a ddysgir, ynghyd â chwblhau astudiaethau ac ymchwil bellach yn llwyddiannus.”

Mae Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arweinydd Thematig ar gyfer Rheoli yn Athrofa Aberystwyth Busnes a'r Gyfraith Aberystwyth, Hugh Preston, a Chyfarwyddwr Ymchwil yn Athrofa Datblygiad Proffesiynol hefyd yn rhan o’r gwaith o ddarparu’r rhaglen.

Mae rhagor o fanylion am Ddoethuriaeth Broffesiynol Prifysgol Aberystwyth a sut i wneud cais ar ein gwefan.