Cyn ASE i draddodi darlith Brexit

Pan gafodd ei hethol yn ASE yn 1994, Eluned Morgan oedd yr aelod ieuengaf i gael ei hethol i Senedd Ewrop a gwasanaethodd fel ASE am dri thymor llawn.

Pan gafodd ei hethol yn ASE yn 1994, Eluned Morgan oedd yr aelod ieuengaf i gael ei hethol i Senedd Ewrop a gwasanaethodd fel ASE am dri thymor llawn.

27 Chwefror 2017

Bydd Eluned Morgan AC yn traddodi araith gyweirnod ar Brexit ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 2 mis Mawrth 2017.

Bydd yr Aelod Cynulliad Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gofyn a all unrhyw beth cadarnhaol ddeillio o benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Trefnir y ddarlith gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD (WISERD-Cwps) ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bydd yn cael ei gynnal am 6.30pm ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais.

Yr Athro Michael Woods o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Gyd-gyfarwyddwr WISERD-Cwps: "Yn ystod y flwyddyn, rydym yn cynllunio cyfres o sgyrsiau cyhoeddus a digwyddiadau sydd yn edrych ar faterion arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru. Mae Brexit yn codi nifer o gwestiynau allweddol i Gymru ac rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrth Eluned Morgan sydd â phrofiad helaeth o lywodraethiant a pholisi yn yr UE. "

Pan gafodd ei hethol yn ASE yn 1994, Eluned Morgan oedd yr aelod ieuengaf i gael ei hethol i Senedd Ewrop a gwasanaethodd fel ASE am dri thymor llawn.

Ymddiswyddodd fel ASE yn 2009, ac ymunodd â ThÅ·'r Arglwyddi fel y Farwnes Morgan o Drelái yn 2011 lle mae'n llefarydd Llafur ar Gymru.

Ym mis Mai 2016, cafodd ei hethol yn aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Lansiwyd Canolfan WISERD dros Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2017, ac mae’n ganolfan ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n anelu at ddatblygu dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru, a chyfrannu at drafodaethau polisi cyhoeddus.

Mae'n ymgorffori Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ac yn gysylltiedig â Sefydliad Cymdeithasol ac Ymchwil Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).