Olion Traed y Cof

Engraved shoes - Credit Guillermo Reynosa

Engraved shoes - Credit Guillermo Reynosa

28 Mawrth 2017

Mae ymchwilydd doethurol yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan allweddol wrth drefnu arddangosfa deithiol ryngwladol i geisio codi ymwybyddiaeth o bobl ddiflanedig Mecsico.

Mae Danielle House yn rhan o brosiect cydweithredol sydd wedi trefnu’r arddangosfa ‘Footprints of Memory: Searching for Mexico’s Disappeared’, a fydd i’w gweld yn y Tŷ Celf, 1 Maes Lowri, Aberystwyth, o 3-8 Ebrill 2017.

Wedi hynny, bydd yn mynd ar daith i Baris, Nice, Rhufain, Fflorens, Turin, Barcelona a Berlin. 

Mae prosiect 'Footprints of Memory', a gychwynnwyd gan yr artist o Fecsico Alfredo Lopez Casanova, yn adrodd straeon pobl sydd wedi diflannu ym Mecsico ers 1969, 30,942 o bobl ers 2006, ac ymdrech ddygn eu teuluoedd i ddod o hyd iddynt.

Trefnwyd yr arddangosfa gan Brosiect Cydweithredol ‘Footprints of Memory’ ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ac fe’i hariennir gan Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Perfformiad a Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth.

Esbonia Danielle: “Mae’r arddangosfa’n cynnwys esgidiau mamau, tadau, meibion, merched, brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, gwŷr a gwragedd, sy’n parhau â’u hymdrech hir i chwilio am eu hanwyliaid. 

“Mae’r esgidiau’n dod o bob cwr o Fecsico a thu hwnt, wedi’u rhoi i ni gan berthnasau’r diflanedig.  Mae’r esgidiau wedi treulio wrth i bobl grwydro’r wlad, yn mynnu cael gwybod ble mae eu hanwyliaid. 

“Ar wadnau’r esgidiau hyn, sydd wedi ymweld â Gweinidogion yn ogystal â beddi torfol, wedi bod ar orymdeithiau ac mewn cyfarfodydd, cafodd negeseuon eu hysgythru yn Ninas Mecsico i gynrychioli’r chwilio.

“Drwy arddangosfa ‘Footprints of Memory’, caiff straeon y diflaniadau ym Mecsico eu clywed ar hyd a lled Ewrop.”

Ymhlith yr eitemau, mae esgidiau perthnasau i 43 o fyfyrwyr a ddiflannodd o Goleg Athrawon Gwledig Ayotzinapa yn Iguala, Guerrero, ar 26 Medi 2014.

Yn ôl María de Jesús Tlatempa Bello, mam un o fyfyrwyr Ayotzinapa, José Eduardo Bartolo Tlatempa, sy’n 19 mlwydd oed, mae’n teithio i Ewrop gyda’r arddangosfa er mwyn "parhau i roi’r gair ar led am ddiflaniad ein plant, oherwydd i ni maen nhw’n fyw, nid yn farw."

Dywedodd Jenny Edkins, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Ryngwladol Perfformiad a Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r esgidiau’n cyffwrdd â ni mewn ffordd uniongyrchol a theimladwy iawn. Roeddem yn awyddus i ddod â nhw i Ewrop i’w helpu i deithio’r byd i dynnu sylw at y diflaniadau ac i adrodd straeon y rhai sydd wrthi’n chwilio.”

Mae’r arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o 3-8 Ebrill ac mae’n rhad ac am ddim. 

Cynhelir symposiwm sy’n gysylltiedig â’r arddangosfa, ‘Absenoldeb, Presenoldeb, Ymgorfforiad’, o 6-8 Ebrill yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth, lle bydd artistiaid, perfformwyr ac academyddion yn sôn am ddiflaniadau, a sut mae herio hynny. Mae’r symposiwm yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Bydd y diflanedig ym Mecsico hefyd yn rhan o arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth o 25 Mawrth tan 13 Mai.   

Mae ‘Lleisiau wedi eu Pwytho’ yn adrodd, drwy gyfrwng tecstiliau, hanes brwydrau yn erbyn trais, anghyfiawnder, gorthrwm ac anghofio. 

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gweithiau o Gymru, Tsile, Mecsico, Gogledd Iwerddon, Sbaen, Colombia a’r Almaen, ac ymhlith yr eitemau mae casgliad o hancesi poced, ac enwau ac amgylchiadau’r bobl sydd wedi diflannu neu wedi eu lladd ym Mecsico wedi’u brodio arnynt.

 

AU12417

María de Jesús Tlatempa Bello Llun: Footprints of Memory


Exhibition  Llun: Footprints of Memory

Exhibition Llun: Footprints of Memory