Lansio cofiant dadlennol David Jones yn yr Hen Goleg

Dr Thomas Dilworth

Dr Thomas Dilworth

19 Ebrill 2017

Mae awdur cofiant dadlennol am y bardd a’r artist modernaidd David Jones yn dod i Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun 24 Ebrill, 2017.

Bydd y Dr Thomas Dilworth yno i lansio’i lyfr David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet, a ddewiswyd ar gyfer rhaglen Book of the Week ar BBC Radio 4 10-15 Ebrill 2017.

Yn Athro Nodedig ym Mhrifysgol Windsor ac yn arbenigwr mewn Llenyddiaeth Fodern a Barddoniaeth Ramantaidd, mae’r Dr Dilworth yn awdurdod blaenllaw ar waith a bywyd David Jones.

Mae'r cyhoeddiad yn nodi penllanw deng mlynedd ar hugain o waith ymchwil, ac fel rhan o’r digwyddiad yn yr Hen Goleg, bydd y Dr Dilworth yn siarad am y gwaith ymchwil bu’n ei wneud yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg o 18: 30-20:00 nos Lun 24 Ebrill. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Staff yng Nghanolfan David Jones yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth sydd wedi trefnu’r lansiad.

Mae’r Ganolfan yn cefnogi ymchwil ar hanes ac effaith Moderniaeth yng Nghymru, ac yn hyrwyddo'r posibiliadau ar gyfer ymchwil newydd a gynigir gan archifau llenyddol ac artistig y Llyfrgell Genedlaethol.

Dywedodd y Dr Luke Thurston o Ganolfan  David Jones: "Mae'r digwyddiad i ddathlu cyhoeddi cofiant y Dr Tom Dilworth o David Jones yn codi ymwybyddiaeth o waith Jones a'i arwyddocâd ehangach i ddiwylliant modern Cymru.

"Bydd hefyd yn tynnu sylw'r cyhoedd at y dreftadaeth Gymreig gyfoethog sydd i’w chael yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru - gan gynnwys pob un David Jones llythyrau, llawysgrifau a phapurau."

Fe'i ganed yn Llundain yn 1895 ond roedd gan David Jones ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig a hynny am fod ei dad yn hanu o Dreffynnon yng Ngogledd Cymru.

Mae tirwedd, iaith a diwylliant Cymru oll wedi dylanwadu ar ei waith fel llenor ac fel artist, ac mae casgliad o’i luniau i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Dylanwad mawr arall arno oedd ei brofiadau yn y ffosydd, gyda WH Auden yn cyfeirio at ei gerdd epig In Parenthesis fel "y llyfr gorau erioed am y Rhyfel Byd Cyntaf".

Mae’r Dr Thomas Dilworth wedi cyhoeddi'n helaeth am fywyd a gwaith Jones, gan gynnwys The Shape of Meaning in the Poetry of David Jones, Reading David Jones and David Jones in the Great War. Fe hefyd yw golygydd cyfrol ddarluniadol o’r Rime of the Ancient Mariner, Wedding Poems ac Inner Necessities, the Letters of David Jones to Desmond Chute.

 

AU12817