Cyn-fyfyrwraig o Aberystwyth yn cael ei henwi yn Weithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn

Dr Phillippa Pearson â’i Gwobr Gweithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn, a ddyfarnwyd gan Gymdeithas yr Amgylchedd

Dr Phillippa Pearson â’i Gwobr Gweithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn, a ddyfarnwyd gan Gymdeithas yr Amgylchedd

30 Mai 2017

Mae cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi cael ei henwi yn Weithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn ar gyfer 2017.

Cyflwynwyd y wobr i Dr Phillippa Pearson gan Gymdeithas yr Amgylchedd mewn seremoni yn Llundain ddydd Iau 4 Mai 2017.

Mae’r wobr yn dathlu ymroddiad eithriadol neu lwyddiant sylweddol wrth ddiogelu, cadw neu wella’r amgylchedd a hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd.

Graddiodd Dr Pearson gyda gradd BSc dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth o Aberystwyth yn 2000 ac aeth ymlaen i wneud PhD mewn Geomorffoleg Afonol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Ymunodd âchwmni Severn Trent Water yn 2003 cyn symud i Dŵr Cymru yn 2006.

Ar hyn o bryd mae’n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni TarddLe, menter arobryn Dŵr Cymru sy’n gofalu am dir, afonydd a chronfeydd dŵr i ddiogelu dŵr yfed.

Dywedodd Dr Pearson, sy’n byw yn Sir Benfro: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i fod yn Weithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn gan Gymdeithas yr Amgylchedd. Rwyf wedi teimlo’n angerddol ynglŷn â’r amgylchedd erioed. Ysbrydolwyd fy niddordeb ymhellach gan fy athro Daearyddiaeth yn yr ysgol uwchradd, ac roedd mynd ymlaen i astudio am radd mewn Daearyddiaeth yn teimlo fel dilyniant naturiol.

“Roedd dewis astudio Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn benderfyniad hawdd. Mae Aberystwyth wedi’i lleoli mewn ardal brydferth, mae ganddi ddiwylliant myfyrwyr ardderchog ac un o’r adrannau Daearyddiaeth gorau ym Mhrydain. Mwynheais yr amrywiaeth o ddewisiadau cwrs a chefais gyfle i wneud gwaith maes mewn lleoliadau amrywiol, o afonydd lleol i rewlifoedd yn Svalbard. Ar ddiwedd fy nghwrs 3 blynedd doeddwn i ddim yn barod i adael Aberystwyth na gorffen astudio felly arhosais yma i wneud gradd PhD.

“Rhoddodd fy amser yn Aberystwyth sylfaen ardderchog o wybodaeth a phrofiad i mi a ‘ngalluogodd i fynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn y Diwydiant Dŵr, sefydlu Tîm Dalgylchoedd Dŵr Cymru a datblygu’r dull TarddLe o reoli dalgylchoedd. Ers ymuno â’r Diwydiant Dŵr mae wedi bod yn bleser meithrin fy nghysyllitiadau ag Aberystwyth a dod yn ôl i arolygu myfyriwr PhD fel arolygydd diwydiannol.”

Dywedodd yr Athro Paul Brewer o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, un o arolygwyr PhD Dr Pearson: “Mae’r ADGD yn hynod falch o glywed bod Dr Phillippa Pearson wedi ennill gwobr Gweithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn ar gyfer 2017. Mae’n glod i Phillippa ei bod wedi adeiladu ar y sgiliau a ddysgodd fel myfyrwraig daearyddiaeth israddedig a PhD, i arwain mentrau yng Nghymru a gynlluniwyd i wella ansawdd dŵr a rheoli dalgylchoedd. Mae trywydd ei gyrfa yn enghraifft ardderchog o’r hyn y gall graddedigion daearyddiaeth ei gyflawni yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni.”

Dywedodd Dr Emma Wilcox, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas yr Amgylchedd, “Rydym yn falch iawn o enwi Dr Phillippa Pearson yn Weithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn ar gyfer 2017. Yr hyn a dynnodd ein sylw am Phillippa oedd ei hangerdd a’i hymroddiad i safonau proffesiynol. Mae hi nid yn unig yn ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol yn ei gwaith yn llwyddiannus iawn, ond mae hi hefyd yn gweithio’n galed i hyrwyddo’r egwyddorion hynny ac mae’n enghraifft berffaith o weithiwr proffesiynol amgylcheddol cofrestredig.

“Mae hi wedi cefnogi llawer o bobl eraill ar eu siwrneiau proffesiynol, ac mae’r cyfoeth o brofiad sydd ganddi yn golygu ei bod yn gefnogwr ac yn fentor gwerthfawr. Bu’n bleser arbennig cael cwrdd âhi a chydnabod ei gwaith. Rydym yn gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i ddilyn ei hesiampl.”

 

AU17717