Cystadleuaeth animeiddio cyfrifiadurol i ysgolion

Mae Eurig Salisbury wedi cyfansoddi cerdd yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae Eurig Salisbury wedi cyfansoddi cerdd yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth.

17 Gorffennaf 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn galw ar blant ysgol cynradd yng Nghymru i fod yn rhan o gystadleuaeth animeiddio Scratch yn cyfuno codio cyfrifiadurol gyda barddoniaeth.

Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol sy’n trefnu'r gystadleuaeth ac mae'n agored i ddisgyblion Blwyddyn 3-6.

Yr her yw creu animeiddiad 90-eiliad o hyd yn darlunio cerdd gan yr awdur arobryn Eurig Salisbury, darlithydd yn Adran y Brifysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a Bardd Plant Cymru 2011-2013.

Gall ymgeiswyr hefyd benderfynu animeiddio chwedl Gymreig o’u dewis, a chyflwyno’u gwaith naill ai fel unigolyn neu fel rhan o dîm.

Mae Dr Hannah Dee yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Aberystwyth: "Mae pawb yn gwybod y gall codio fod yn bwysig iawn ar gyfer swyddi a gyrfaoedd yn y dyfodol, ond rydyn ni’n credu ei fod yr un mor bwysig sylweddoli y gall codio fod yn greadigol ac yn hwyl. Mae'r gystadleuaeth animeiddio hon yn caniatáu i blant ymgymryd â chodio chwareus ac amlygu eu doniau creadigol.”

Dywedodd Eurig Salisbury: "Mae’r gerdd yn disgrifio diwrnod ym mywyd bachgen ysgol ifanc - gan gynnwys rhedeg i ddal y bws ysgol, mynd yn sownd mewn ryc rygbi ac yna dod gartref i gael cwtsh gan mam. Rwy'n gobeithio y bydd fy ngeiriau’n ysbrydoli disgyblion wrth iddyn nhw fynd ati i animeiddio a datblygu eu sgiliau codio cyfrifiadurol."

Caiff gwobrau eu cyflwyno mewn dau gategori gwahanol - disgyblion Blwyddyn 3 neu 4 a Disgyblion Blwyddyn 5 neu 6.

Bydd pob cais buddugol (sef y wobr gyntaf, ail neu drydedd mewn categori yn ogystal â'r Wobr Fawr) yn ennill 'Diwrnod Codio' ar gyfer eu hysgol gynradd.

Ar gyfer y 'Diwrnod Codio', bydd staff o'r Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn treulio'r diwrnod yn yr ysgolion cynradd buddugol yn cyflwyno gweithdai codio.

Bydd y wobr gyntaf ymhob categori hefyd yn ennill Cit Cyfrifiadur Kano, gyda’r ail a'r drydedd mewn categori yn ennill cyfrifiadur Raspberry Pi.

Bydd yna Brif Wobr hefyd ar gyfer yr ymgais orau yn gyffredinol, gyda’r enillydd yn cael Pecyn Cyfrifiadurol Kano, Pecyn Sgrîn Kano â chasgliad o nwyddau Raspberry Pi.

Y dyddiad cau yw 30 Medi 2017, ac mae manylion pellach am gyflwyno cais i’w cael ar wefan yr Adran Gyfrifiadureg.