Agor Drysau’r Hen Goleg

20 Medi 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o wahodd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod mwy am yr Hen Goleg fel rhan o ddigwyddiadDrysau Agored 2017 sy’n cael ei gynnal dros y Sul, 23 – 24 Medi 2017.

Drysau Agored yw'r digwyddiad gwirfoddol mwyaf yn y sector treftadaeth yng Nghymru ac mae’n rhan o raglen Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, a gynhelir mewn 50 o wledydd led led Ewrop.

Mae'r Hen Goleg yn adeilad rhestredig Gradd I sy’n wynebu'r môr yn Aberystwyth. Gyda thyrrau castellog a gargoiliau ar y parapetau, yr adeilad eiconig hwn yw man geni ysgolheictod yng Nghymru ac mae’n un o adeiladau mwyaf nodweddiadol y Deyrnas Gyfunol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fe'i codwyd yn wreiddiol fel gwesty gan y contractwr rheilffordd Thomas Savin , ac fe’i prynwyd gan Bwyllgor Prifysgol Cymru yn 1867 am £10,000, cyfran fechan o'r swm y costiodd i’w adeiladu. Cyrhaeddodd y myfyrwyr cyntaf yn mis Hydref 1872.

Mae mwy na £10 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i glustnodi i drawsnewid yr adeilad dros y bum mlynedd nesaf i fod yn ofod perfformio ac oriel ar gyfer artistiaid, arddangosfeydd a cherddorion, canolfan i fentergarwyr a busnesau, yn ogystal â chaffi ac ystafelloedd cymunedol.

Bydd yn gartref hefyd i amgueddfa’r brifysgol gan arddangos eitemau o gasgliadau ar draws y sefydliad, a bydd canolfan wyddonol newydd yn cynnwys yr arddangosiadau rhyngweithiol diweddaraf ynghyd â phlanedariwm a chyfleuster 4D yn amlygu cysylltiadau’r brifysgol gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Bydd Teithiau o’r Hen Goleg yn cychwyn o’r Cwad ar y llawr gwaelod am: 10yb, 11.30yb, 1yp, 2.30yp ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Medi. Mynediad am Ddim.