Oliver! yn agor i ymated gwych gan y gynulleidfa

Llun: Keith Morris

Llun: Keith Morris

14 Awst 2019

Mae cynhyrchiad Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth o’u sioe gerdd tymor yr haf, Oliver!, wedi’i gyfarwyddo gan Richard Cheshire, wedi mwynhau noson agoriadol llawn dop gyda’r gynulleidfa wrth eu bodd ac ar eu traed yn bloeddio’u cymeradwyaeth wrth i’r cast dynnu’r sioe i’w derfyn.

Mae’r cynhyrchiad, sy’n parhau am dair wythnos, yn cynnwys sêr y West End, fel Anna McGarahan a Matthew Ashforde, ffefrynnau o’r teledu fel John Lyons, Ieuan Rhys a Gillian Elisa, ac mae Sam Ebenezer a Bethan Pearce yn dychwelyd i’w cartref ysbrydol yn actorion proffesiynol.

Ar y noson agoriadol Charlie Longman oedd Oliver, a Rhodri Jenkins a Mackenzie Lawlor sy’n rhannu rôl Oliver drwy’r rhediad. Anirudh Krishna oedd yr Artful Dodger, a Sam Rolt sydd hefyd yn ymddangos yn y rôl drwy gyfnod y sioe.

Ymysg y rheini oedd yn gwylio Oliver! roedd yr actor Gymraeg Phylip Harries, wnaeth canmol “perfformiadau grymus” Ieuan Rhys a Gillian Elisa. Wnaeth y Fonesig Elan Clos Stephens nodi fod y sioe’n un o “safon uchel” wrth longyfarch y cast a’r gerddorfa, a gwnaeth Alana Spencer o gwmni gacenni Ridiculously Rich by Alana galw’r sioe’n “hollol anhygoel”.

Roedd ymateb y gynulleidfa i berfformiadau gyntaf y sioe’n eithriadol, gyda rhai’n dweud bod gan y sioe “safon y West End” ac eraill yn dweud dyma’r sioe “orau iddynt erioed ei weld” yng Nghanolfan y Celfyddydau. Mae’r cast o sêr proffesiynol yn “wych” ac yn “anhygoel” gydag un aelod o’r gynulleidfa’n nodi bod Matthew Ashforde fel Fagin yn “ragorol”. Roedd clod ar gyfer y plant hefyd,  “sêr y dyfodol,” medd rhai.

Mae’r cynhyrchiad o’r “ansawdd uchaf” wedi derbyn clod am ei oleuo, y set a’r band byw, sy’n chwarae cerddoriaeth wreiddiol Lionel Bart yn berffaith trwy’r sioe. Wnaeth un aelod o’r gynulleidfa hyd yn oed arsylwi byddai’r cynhyrchiad wedi “gwneud argraff ar hyd yn oed Lionel Bart”.

Bydd Oliver! yn parhau i redeg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth tan Awst 31ain, gyda pherfformiadau pob nos Mawrth-Sadwrn, a pherfformiadau’r prynhawn ar ddyddiau Mercher, Iau, Sadwrn a Sul.

Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, dros y ffôn ar 01970 623232 neu ar-lein yn www.aberystwythartscentre.co.uk/cy