Y Coronafeirws wedi lledaenu’n ehangach yn y DU na gweddill Ewrop medd academyddion

Baner Coronafeirws tu allan i fynedfa'r Brifysgol

Baner Coronafeirws tu allan i fynedfa'r Brifysgol

08 Mehefin 2020

Mae lledaeniad daearyddol y Coronafeirws ym Mhrydain yn llawer ehangach nac yng ngweddill Ewrop, sy’n awgrymu bod y cyfyngiadau llym ar symud wedi eu cyflwyno yn rhy hwyr, yn ôl gwaith academaidd. 

Dengys yr ymchwil gan dîm o academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth bod lledaeniad y feirws yn y DU lawer yn ehangach ac nid wedi ei ganoli ar nifer cymharol fach o leoliadau fel a welwyd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.

Mae’r dadansoddiad yn rhan o brosiect Horizon 2020 IMAJINE, ac yn cymharu lledaeniad rhanbarthol y feirws ar draws amryw o wladwriaethau yn Ewrop tan ddiwedd Ebrill. Dengys bod 69% o’r achosion yn y Ffindir yn rhanbarth Helsinki, bod 60% o’r achosion ym Mhortiwgal yn ardal Norte (o gwmpas Porto), a 58% o’r achosion yn Norwy yn ardal Oslo. Mewn gwrthgyferbyniad, gwelwyd mwy o achosion o COVID-19 yn Lundain nac yn unrhyw ran arall o’r DU, ond 17% yn unig o holl achosion y DU. Mae hyn yn awgrymu bod yr haint wedi lledaenu yn ehangach yn y DU nac mewn gwladwriaethau eraill yn Ewrop.

Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan yr Athro Michael Woods o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd Yr Athro Woods: “Mae COVID-19 yn bandemig byd-eang, ond mae lledaeniad yr haint yn rhanbarthol iawn ac mae ei ddwysedd daearyddol yn amrywio o wlad i wlad. Mewn gwledydd lle mae cyfanswm yr achosion o Covid-19 yn gymharol isel, mae’r achosion hynny wedi eu canoli i raddau ar un neu ddwy ddinas neu ranbarth. Mewn gwledydd sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan yr haint, megis yr Eidal a Sbaen,  ceir nifer o ganolfannau lle mae llawer fawr o achosion, ond rhanbarthau lle ceir llai o achosion.”

“Mae Prydain yn drawiadol am y modd y mae’r coronafeirws wedi lledaenu i bob rhanbarth a chenedl. Mewn pob un ond chwe sir ym Mhrydain Fawr, gwelwyd mwy na 10 marwolaeth oherwydd Covid-19 am bob 100,000 o breswylwyr. Mae hynny’n uwch nac yn unrhywle yn Nwyrain Ewrop.

“Mae’r crynodiad daearyddol yn bwysig gan fod y dystiolaeth yn dangos bod yr haint yn taro ardaloedd poblog a chymharol gyfoethog yn y lle cyntaf, ac yna’n lledaenu i ardaloedd llai ffyniannus lle mae’r effaith yn waeth.

“Mae angen rhagor o waith, ond mae ein dadansoddiad yn awgrymu bod gweithredu cynnar i atal lledaeniad daearyddol y feirws yn bwysig er mwyn cyfyngu ar ddifrifoldeb ei effeithiau.”

Mae’r gwaith cychwynnol yn rhan o brosiect ehangach sy’n edrych ar ddynameg anghydraddoldebau tiriogaethol yn Ewrop ac yn ymchwilio sut gellid mynd i’r afael â’r rheini’n fwyaf effeithiol drwy ymyraethau polisi, gan dynnu’n benodol ar y cysyniad o gyfiawnder gofodol.

Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar batrymau daearyddol lledaeniad y Coronafeirws dros y misoedd nesaf, gan gynnwys dylanwad ffyniant a natur wledig ardaloedd ar ddifrifoldeb effaith y feirws.