Rôl newydd i Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dafydd Rhys

Dafydd Rhys

18 Awst 2022

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure wedi llongyfarch Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ôl cyhoeddi mae ef fydd Prif Weithredwr newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Penodwyd Dafydd Rhys i’w rôl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2018 a bydd bellach yn mynd ymlaen i arwain y corff sy’n ariannu a datblygu’r celfyddydau ledled Cymru yn yr hydref.

Meddai’r Athro Treasure: “Llongyfarchiadau gwresog i Dafydd ar y penodiad hynod gyffrous a haeddiannol hwn. O ystyried arweinyddiaeth ragorol Dafydd o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf, nid yw’n syndod bod galw am ei sgiliau, ei greadigrwydd a’i brofiad ar lefel genedlaethol. Mae gennym berthynas gref iawn gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n newyddion da i ni y bydd y Prif Weithredwr newydd yn rhywun sydd â dealltwriaeth mor ddwfn o’r celfyddydau tu hwnt i’r dinasoedd mwy. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Dafydd yn ei rôl newydd a pharhau i symud Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ymlaen o dan arweiniad newydd maes o law.”