Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu bwydydd microbaidd cynaliadwy – prosiect £14 miliwn

Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth

Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth

11 Mawrth 2024

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatblygu bwydydd microbaidd cynaliadwy fel rhan o brosiect newydd gwerth £14m.

Bydd yr ymchwilwyr o IBERS yn Aberystwyth yn cyfrannu at waith yr Hyb Bwyd Microbaidd newydd sydd wedi ei gyllido fel rhan o gronfa gwerth £100m Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) i ddatgloi potensial bioleg peirianneg.

Mae bwydydd microbaidd yn cael eu cynhyrchu gan ficro-organebau fel burum a ffyngau trwy eplesu ac maent yn cynnig dewis amgen mwy cynaliadwy ac iachach o gymharu â rhai bwydydd.

Y cyntaf o'i fath yn y byd, daw’r Hyb Bwyd Microbaidd ag academyddion, partneriaid diwydiannol, sefydliadau bwyd a defnyddwyr ynghyd.

Ei nod yw datblygu bwydydd newydd wedi'u heplesu sy'n well i'r amgylchedd, yn fwy gwydn i siociau hinsoddol neu wleidyddol, ac yn iachach ac yn fwy blasus i ddefnyddwyr.

Bydd yr Hyb yn canolbwyntio ar gynhyrchion a chynhwysion bwyd wedi'u heplesu, gan gynnwys tyfu celloedd ffwngaidd â nodweddion maethol uchel a chynhyrchu cynhwysion gan ddefnyddio micro-organebau wedi'u peiriannu.

Bydd hefyd yn ymchwilio i ddulliau eplesu traddodiadol, sy'n defnyddio microbau i drawsnewid a gwella maeth a blas cynhyrchion planhigion sylfaenol.

Dywedodd Dr Dave Bryant, o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae microbau’n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu bwyd oherwydd eu bod yn tyfu’n gyflym, nid oes angen llawer iawn o dir na dŵr arnyn nhw, a gallan nhw fwydo ar sgil-gynhyrchion dros ben a chyd-gynhyrchion o’n diwydiannau bwyd presennol. Mae'r bwydydd y maen nhw’n eu cynhyrchu yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan dywydd garw ac mae’n bosibl eu cynhyrchu'n lleol, gan leihau costau cludiant, ôl troed carbon a'n dibyniaeth ar fwyd wedi'i fewnforio. Felly, mae gan y cyhoeddiad hwn botensial aruthrol i fynd i’r afael â heriau byd-eang a sbarduno twf economaidd, gwydnwch a pharodrwydd.”

Dywedodd yr Athro Ledesma-Amaro o Imperial, sy’n arwain y prosiect:

“Mae bioleg peirianneg eisoes yn cael ei defnyddio i wneud y gorau o gynhyrchu bwyd microbaidd, ac mae bellach yn bosibl trin microbau i fod yn fwy cynhyrchiol, yn fwy blasus ac yn fwy maethlon. Mae cymhwyso datblygiadau gwyddonol diweddar i fwydydd microbaidd â’r potensial i newid y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yn sylweddol, gan greu cyfle pwysig ac amserol i fynd i’r afael â rhai o heriau iechyd a chynaliadwyedd mwyaf hanfodol ein hoes.”

Mae’r canolfannau cenhadaeth a’r prosiectau gwobrau newydd wedi’u cynllunio i chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer bioleg peirianneg a gyhoeddwyd y llynedd.

Cyhoeddodd Andrew Griffith, Gweinidog Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol gyllid ar gyfer chwe Chanolfan Cenhadaeth Bioleg Peirianneg newydd. Dywedodd e:

“Mae gan fioleg peirianneg y pŵer i drawsnewid ein hiechyd a’n hamgylchedd, o ddatblygu meddyginiaethau sy’n achub bywydau i ddiogelu ein hamgylchedd a’n cyflenwad bwyd a thu hwnt.

“Gyda Hybiau a Gwobrau Cenhadaeth newydd wedi’u lledaenu ar draws y wlad, o Gaeredin i Portsmouth, rydym ni’n cefnogi ymchwilwyr ac arloeswyr uchelgeisiol ledled y Deyrnas Gyfunol i ddod o hyd i atebion newydd arloesol a all drawsnewid sut rydym ni’n byw ein bywydau, tra’n tyfu ein heconomi.”

Bydd y prosiect yn manteisio ar gyfleusterau ymchwil ac datblygu arbenigol ArloesiAber sydd wedi’u leoli ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.