Gwahodd y cyhoedd i rannu eu barn ar frandio prosiect yr Hen Goleg

Delwedd artist of arddangosfa yn Hen Neuadd yr Hen Goleg, a fydd yn rhan o’r parth Cymuned, Diwylliant a Lletygarwch.

Delwedd artist of arddangosfa yn Hen Neuadd yr Hen Goleg, a fydd yn rhan o’r parth Cymuned, Diwylliant a Lletygarwch.

11 Ebrill 2024

Wrth i waith adeiladu brysuro ar y safle, mae’r stiwdio greadigol arobryn Elfen wedi’i chomisiynu i edrych ar y gwerthoedd y mae’r prosiect yn eu cynrychioli a datblygu syniadau ar gyfer hunaniaeth brand ar gyfer prosiect yr Hen Goleg.

Yn sgil gweithdai rhanddeiliaid rhagarweiniol yn y Brifysgol, mae Elfen bellach yn estyn gwahoddiad agored i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at gam nesaf y gwaith.

Mae holiadur byr ar-lein wedi'i ddatblygu sy'n ceisio barn am yr Hen Goleg, ei hanes, ei leoliad a'i werthoedd, a syniadau am enw'r prif ddatblygiad a/neu adeiladau unigol.

Mae holiadur yr Hen Goleg ar gael ar-lein yma.

Dywedodd Gwion Prydderch o Elfen: “Mae’n fraint derbyn comisiwn i weithio ar brosiect mor bwysig. Ein nod yw ystyried yr enw yng nghyd-destun y datblygiad cyfan a dylunio brand gweledol. Fel rhan o’r broses yma rydym wedi bod yn edrych ar y gwerthoedd mae’r prosiect yn eu cynrychioli, agweddau gwahanol y datblygiad ac ymchwilio i eirfa berthnasol sy’n ymwneud â’r defnydd newydd, lleoliad, treftadaeth a hanes yr adeiladau. Ar sail y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud rydym yn gwahodd pawb i gyfrannu eu syniadau drwy’r holiadur arlein.”

Bydd yr holiadur arlein ar agor tan ddydd Gwener 26 Ebrill.

Bywyd Newydd i'r Hen Goleg

Mae’r Hen Goleg yn cael ei drawsnewid  yn ganolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd Gwybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.

Wedi’i hysbrydoli gan arwyddair y Brifysgol, bydd Byd Gwybodaeth yn cynnwys canolfan sy’n dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa Prifysgol, parth Pobl Ifanc gyda gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio 24-7 i fyfyrwyr a chyfleuster sinema flaengar.

Bydd y cwad, calon draddodiadol yr Hen Goleg, yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw. Mae’r parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y DU.

Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc mewn busnesau creadigol a digidol.

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau disgwylir i'r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m yn flynyddol at yr economi leol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth mawr megis cestyll Caernarfon a Chonwy.

Bydd hyd at 130 o swyddi'n cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4*, bariau, caffis a gofodau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ddramatig i 200 o bobl gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.

Mae manylion llawn am y prosiect arlein:
https://www.aber.ac.uk/cy/oldcollege/future-plans/delweddauacynlluniau/