Delweddau a Cynlluniau

Rydym ni wrth ein bodd bod gennym gynllun cynaliadwy a chadarn a fydd yn trawsnewid yr Hen Goleg. Bydd yn troi'r adeilad sydd - er mor brydferth ydyw - heb gael ei ddefnyddio’n iawn ar hyn o bryd, i fod yn fwrlwm o gyfleoedd i Brifysgol Aberystwyth, ei myfyrwyr, y staff, y gymuned leol a'r ymwelwyr â'r fro.

Gyda diolch i AMP Digital, cafodd y tu mewn i'r adeiladau hanesyddol hynod hyn eu dal fel sganiau 3D cyn i'r gwaith ddechrau ar y prosiect trawsnewidiol. Cliciwch ar y linc i weld y gofodau enfawr yn 3D Yr Hen Goleg (De a Gogledd) ac Y Cambria.

I weld mwy o luniau o'r cynlluniau, ewch draw i Ddelwedd-lyfr yr Hen Goleg.

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cambria

Mae cynnwys adeilad cyfagos y Cambria yn rhan o brosiect yr Hen Goleg, gyda chyllid y Gronfa Ffyniant Bro, yn ddatblygiad arwyddocaol. A hynny yn sgil y ffaith y bydd y model gweithredu yn fwy cadarn, gydag ystafelloedd gwely ychwanegol i’r gwesty, a mannau ar gyfer gweithgareddau cymunedol ac addysgol/diwylliannol.

 

Yr Atriwm a'r Ystafell Digwyddiadau

  • Ystafell ddigwyddiadau newydd ar y to gyda golygfeydd trawiadol dros y môr.
  • Yn y gwahanol fannau hyblyg gallwn gynnal digwyddiadau megis Noson Wobrwyo Undeb y Myfyrwyr, cyngherddau, gwyliau, dadleuon, a llawer mwy.

 

 

 

 

Cyswllt â'r Gymuned

Yma, yng nghanol Aber, bydd myfyrwyr a'r gymuned yn elwa o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd i'w hysbrydoli, o'r math na welir ond mewn dinasoedd fel arfer, diolch i'n partneriaethau gydag:

  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Gŵyl y Gelli
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cyfarfodydd a Thrafodaethau

Mae pryder ar led fod dawn cyfathrebu pobl ifainc ar lafar yn dirywio, ond byddwn ni'n helpu i feithrin y sgiliau hynny yn ein Talwrn Trafod.

Bydd y Talwrn yn lle i gynnal trafodaeth a dadleuon ar gyfer:

  • cymdeithasau a chlybiau
  • mudiadau ieuenctid allanol
  • sefydliadau ledled Cymru

 

Byd o Wybodaeth

Bydd cyfle i'r holl fyfyrwyr fanteisio ar adnoddau o ansawdd ger y lli – gellid dadlau mai dyma'r lleoliad astudio mwyaf unigryw drwy Brydain i gyd.

  • Lle diogel i astudio, 24-awr, yn y lleoliad delfrydol yng nghanol y dref
  • Mannau cyfforddus a chyfoes i ysgogi trafodaethau a chydweithredu â chyd-fyfyrwyr

Menter ac Arloesi

  • Mannau cynhwysol â'r nod o annog busnesau a mentrau newydd
  • Hybu economi Ceredigion
  • Ysbrydoli pobl a rhoi'r grym iddynt i gychwyn eu busnes eu hun