Cynllun i greu ap ffôn symudol i ganfod clwyf tatws yn gynnar

Mae clwyf tatws yn gyfrifol am 20% o golledion cnydau tatws. Llun gan Wolfgang Ehrecke o Pixabay
22 Gorffennaf 2025
Cyn hir mae’n bosib y bydd modd canfod clwyf tatws, un o’r clefydau cnydau mwyaf dinistriol yn y byd, trwy ddefnyddio ffonau symudol, diolch i ap newydd sy'n cael ei ddatblygu gan wyddonwyr o Gymru.
Dan arweiniad tîm ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, nod prosiect DeepDetectyw datblygu ap ffôn symudol sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddarparu rhybuddion cynnar o glefydau mewn tatws.
Mae cnydau tatws yn agored iawn i glefydau a achosir gan bathogenau fel ffyngau, bacteria, firysau a nematodau.
Gall clwyf tatws hwyr, a achosir gan Phytophthora infestans, ddifa cynaeafau caeau cyfan, gan arwain at gostau enfawr a phrinder bwyd. Mae'n gyfrifol am 20% o golledion cnydau tatws a £3.5 biliwn mewn colledion economaidd ledled y byd.
Yn draddodiadol, mae’r ymdrechion i ganfod clefydau mewn cnydau wedi dibynnu ar archwilio’r cnydau â llaw, dull sy'n cymryd llawer o amser, sy’n ddrud, ac sy’n aml yn oddrychol.
Mae DeepDetect yn gobeithio newid hynny trwy harneisio grym dysgu peirianyddol i ddarparu diagnosis cywir yn uniongyrchol i ffonau clyfar ffermwyr.
Meddai Dr Edore Akpokodje, Darlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Ein nod yw grymuso ffermwyr drwy greu adnodd sydd nid yn unig yn gadarn yn wyddonol ond sydd hefyd yn ymarferol ac yn hawdd i'w ddefnyddio, i ddarparu rhagolygon am glefydau yn eu hardal benodol, yn syth i'w ffonau. Trwy integreiddio adborth ffermwyr o'r cychwyn cyntaf, byddwn yn sicrhau bod y dechnoleg hon yn seiliedig ar anghenion a heriau yn y byd go iawn."
Mae tatws yn gnwd hanfodol yn fyd-eang ac yng Nghymru, lle mae dros 17,000 hectar wedi'u neilltuo i ffermio tatws.
Mae’r prosiect hefyd yn anelu at leihau baich amgylcheddol ac ariannol y defnydd eang o chwistrellu ataliol, sydd ar hyn o bryd yn costio hyd at £5.27 miliwn i ffermwyr Cymru bob blwyddyn.
Ychwanegodd Dr Akpokodje:
"Byddai ateb yr her o ganfod clefydau mewn planhigion tatws yn gynnar yn rhoi hwb i gynhyrchiant ac yn lleihau’r costau i ffermwyr, gan ategu dulliau mwy cynaliadwy a thargedig o reoli clefydau ar yr un pryd. Trwy leihau ein dibyniaeth ar blaladdwyr, bydd hyn o fudd i'r amgylchedd ac i wytnwch hirdymor y diwydiant tatws. Mae gan y dechnoleg hefyd y potensial i gael ei defnyddio’n ehangach gyda chnydau eraill, gan sbarduno arloesi mewn arferion amaethyddol."
Dywedodd Dr Aiswarya Girija o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Tatws yw'r pedwerydd cnwd pwysicaf yn fyd-eang, ac mae cynhyrchu’r cnwd mor effeithiol â phosib yn hanfodol ar gyfer poblogaeth fyd-eang sy'n prysur dyfu. Felly, nid mater ffermio yn unig yw clwyf tatws - mae'n fater o ddiogelu cyflenwadau bwyd.
"Yn ogystal â bygwth sefydlogrwydd cyflenwadau bwyd, mae clwyf tatws yn cynyddu costau cynhyrchu a’n ddibyniaeth ar ffwngleiddiaid sy'n niweidiol i'r amgylchedd. Bydd y system rydym yn bwriadu ei datblygu yn gallu canfod arwyddion cynnar o glefyd cyn bod modd eu gweld â’r llygad dynol, a fydd yn galluogi ymyriadau amserol ac wedi’u targedu."
Cam cyntaf y prosiect DeepDetect fydd cynnal astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr, gan gynnwys ymchwil i'r farchnad i ddeall cyfyngiadau'r systemau rhybuddio cynnar presennol ac i adnabod anghenion ffermwyr Cymru. Bydd y cam hwn yn dechrau gyda thîm y prosiect yn siarad â rhanddeiliaid a chynrychiolwyr y cyhoedd ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon.
Yna, bydd tîm y prosiect yn creu prototeip wedi'i yrru gan Ddeallusrwydd Artiffisial a fydd yn defnyddio setiau data o ddelweddau o ddail tatws iach a heintiedig.
Ar ôl i'r prototeip gael ei ddatblygu, bydd y tîm yn cynnal grwpiau ffocws a gweithdai gyda ffermwyr ac agronomegwyr i fireinio'r model ac i sicrhau ei fod yn hwylus i’w ddefnyddio.
Bydd canlyniadau'r astudiaeth ddichonoldeb hon, a ariennir gan raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru (SFIS), yn gosod y sylfeini ar gyfer System Rhybudd Cynnar genedlaethol ar gyfer clwyf tatws, gyda’r posibilrwydd o ehangu'r dechnoleg i gnydau a rhanbarthau eraill yn y dyfodol.