Athrofa Aberystwyth yn aelod sylfaenol o grŵp ymchwil elitaidd newydd

Golygfa o’r awyr o leiniau plannu arbrofol yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yng Ngogerddan, Aberystwyth. Llun: Jason Brook.
10 Rhagfyr 2025
Mae athrofa ym Mhrifysgol Aberystwyth yn aelod sylfaenol o gynghrair newydd o 35 o asiantaethau a sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Gyfunol a lansiwyd heddiw (10 Rhagfyr).
Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yng Ngogerddan yw'r unig aelod o'r Grŵp Sefydliadau Ymchwil Cenedlaethol newydd, yr NRO, yng Nghymru.
Yn ymroddedig i hyrwyddo gwyddoniaeth er budd pobl, cymunedau, yr economi a blaenoriaethau cenedlaethol, mae'r grŵp wedi'i gynllunio i fod yn bartner dibynadwy i'r llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant er mwyn rhoi persbectif awdurdodol ar fuddsoddiad mewn gwyddoniaeth, polisi ac ymchwil.
Bydd hefyd yn llywio penderfyniadau i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol, megis twf, diogelwch a gwytnwch, wrth yrru cynnydd tuag at dargedau sero net ac amgylcheddol y Deyrnas Gyfunol.
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth athrofa ymchwil IBERS, sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth ac sy'n cael ei ariannu'n strategol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnegol a Biolegol UKRI:
“Rydyn ni'n croesawu’n fawr lansiad y Grŵp Sefydliadau Ymchwil Cenedlaethol ac wrth ein bodd bod IBERS ymhlith yr aelodau sylfaenol. Trwy ein rôl yn darparu gallu cenedlaethol mewn gwyddor tir glas a bridio planhigion, rydyn ni mewn sefyllfa dda i gefnogi amcanion diogelwch bwyd yn ogystal â chyfrannu at flaenoriaethau’r Deyrnas Gyfunol o ran datblygu darganfyddiadau gwyddonol i gyflymu arloesedd a chefnogi twf economaidd glân.”
Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Vallance:
“Mae Ymchwil a Datblygu yn hanfodol i adeiladu Prydain well. O driniaethau newydd ar gyfer canser, i gamau mawr ymlaen mewn ynni glân neu ddatblygu cyfrifiaduron y dyfodol, bydd y llwybr at economi a chymdeithas gryfach yn dibynnu ar wyddoniaeth ac arloesedd.
“Ni fu erioed amser gwell i sefydliadau ymchwil a chyrff ymchwil cyhoeddus y Deyrnas Gyfunol gydweithio. Drwy alinio eu galluoedd i gyflawni'r effaith fwyaf, bydd Grŵp yr NRO yn rhan allweddol o'n hymdrechion i sicrhau bod gwyddoniaeth a thechnoleg o fudd i bawb."
Mae grŵp yr NRO yn dwyn ynghyd nifer o asiantaethau a sefydliadau sy'n darparu galluoedd cenedlaethol a rhyngwladol unigryw.
Dywedodd Dr Stuart Wainwright, Cyfarwyddwr Grŵp yr NRO a Phrif Weithredwr Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Gyfunol:
“Rwy’ wedi gweithio gyda nifer o Sefydliadau Ymchwil Cenedlaethol dros y 25 mlynedd diwethaf ac wedi cael fy ysbrydoli'n gyson gan sut mae eu gwyddoniaeth yn gwella bywydau, yn sbarduno twf ac yn sicrhau ein diogelwch cenedlaethol. Trwy'r Grŵp NRO newydd, ein nod yw gwneud hyd yn oed mwy o ddaioni i'r genedl a'n pobl.
Mae cytundeb partneriaeth ffurfiol yn sail i'r cynghrair newydd ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.nrogroup.org.
