Arbenigwyr TB buchol yn trafod strategaethau rheoli a dileu

Siaradwyr yng nghynhadledd AberTB 2026

Siaradwyr yng nghynhadledd AberTB 2026

16 Medi 2026

Daeth llunwyr polisi, milfeddygon, ymchwilwyr, ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i Brifysgol Aberystwyth heddiw i drafod strategaethau ar gyfer rheoli a dileu twbercwlosis buchol.

Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol AberTB gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol a Chanolfan a Labordai Milfeddygol1 ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd y gynhadledd eleni yn edrych ar bolisïau TB buchol ar draws pedair gwlad y DU ac Iwerddon, gan ddod ag arbenigwyr ynghyd i drafod y dystiolaeth ddiweddaraf, cymharu dulliau gweithredu ac ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â rheoli a dileu'r clefyd.

Traddodwyd anerchiadau agoriadol gan Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd a'r Athro Glyn Hewinson, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol.

Roedd y siaradwyr arbenigol eraill yn cynnwys Prif Swyddog Milfeddygol a Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol, cynghorwyr y llywodraeth, ac academyddion blaenllaw ym maes TB. 

Yn ogystal â hyn, clywodd y cynadleddwyr yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru, sy'n cael eu cefnogi gan Brifysgol Aberystwyth ac sy'n treialu offer a dulliau sy'n dod â ffermwyr a milfeddygon at ei gilydd i weithredu mewn modd sydd wedi’i deilwra ar gyfer buchesi unigol. Nod y prosiectau yw adnabod a rheoli risgiau TB mewn gwartheg, gwella bioddiogelwch, ac amddiffyn buchesi a busnesau rhag y clefyd.

Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae TB buchol yn parhau i fod yn un o'r heriau iechyd anifeiliaid mwyaf cymhleth sy'n wynebu'r DU ac Iwerddon. Er mwyn ymdrin â’r clefyd mae angen arloesi gwyddonol a chydweithio agos rhwng llywodraethau, ymchwilwyr, milfeddygon a ffermwyr.

“Mae AberTB yn gyfle gwerthfawr i gymharu polisïau, rhannu’r dystiolaeth ddiweddaraf a dysgu o brofiadau ar draws gwahanol ranbarthau. Trwy ddod ag arbenigedd ynghyd o'r cymunedau da byw, milfeddygol, ymchwil a pholisi, gallwn helpu i sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn canolbwyntio ar gyflawni cynnydd parhaol.”

Sefydlwyd Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018 i ddarparu sylfaen o dystiolaeth wyddonol gref i gynorthwyo i ddileu'r clefyd ac i ddatblygu arbenigedd ymchwil yng Nghymru.