Twbercwlosis buchol: canfod, diogelu a rheoli

 

Cyflwyniad

Twbercwlosis buchol: canfod, diogelu a rheoli

Twbercwlosis buchol (bTB) yw'r her fwyaf sy'n wynebu Cymru heddiw ym maes iechyd anifeiliaid. Mae'r afiechyd yn cael effaith ariannol a chymdeithasol sylweddol ar fusnesau fferm ac ar y gymuned wledig yn ehangach. Mae TB buchol yn hynod o gostus i'r Llywodraeth o ran cost y rhaglen reoli ac iawndal i'r ceidwaid hynny y mae eu hanifeiliaid yn cael eu lladd yn sgil twbercwlosis buchol. Roedd y gost i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn £25 miliwn, a'r gost i'r diwydiant tua £6.4 miliwn.

Gall yr organeb sy'n achosi'r afiechyd, Mycobacterium bovis, gael ei throsglwyddo i bobl, ac yn ddiweddar bu'r ymdrech i ddileu'r organeb ar lefel fyd-eang yn ffocws menter 'One Health' dan arweiniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (OIE), Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a'r Undeb Rhyngwladol rhag Twbercwlosis a Chlefyd yr Ysgyfaint er mwyn rhoi terfyn ar TB milheintiol.

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol yn cael ei chefnogi gan Sêr Cymru II, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yr UE (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) a'r Brifysgol er mwyn cynyddu a datblygu arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.  Mae'r Ganolfan yn cael ei harwain gan yr Athro Glyn Hewinson FLSW, a chafodd ei sefydlu o fewn IBERS er mwyn cefnogi nod hirdymor Llywodraeth Cymru i ddileu twbercwlosis buchol o Gymru.

Mae gwaith y Ganolfan Ragoriaeth yn rhyngddisgyblaethol o ran ei natur. Mae'n gwneud gwaith ymchwil er mwyn deall bioleg haint M. bovis, a hynny'n sail i ddatblygu a defnyddio profion diagnostig a brechlynnau newydd ar gyfer bTB. Mae hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth arbenigol i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch dileu bTB.

Amcanion a Dulliau Gweithio

Amcanion

Mae Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol Cymru yn rhoi cyngor annibynnol arbenigol i Lywodraeth Cymru ar reoli bTB a chynyddu capasiti ymchwil da byw yng Nghymru trwy sefydlu labordai ymchwil milfeddygol arloesol. Nod y Ganolfan Ragoriaeth yw cynyddu'r capasiti a'r gallu ymchwil ym maes imiwnoleg, bacterioleg filfeddygol, genomeg ac epidemioleg foleciwlaidd, a gweithio gyda grwpiau a sefydliadau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol megis yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Sefydliad Jenner, Sefydliad Iechyd y Byd, OIE ac FAO i gynorthwyo i gynnig dull One Health o fynd ati i reoli TB buchol.

Dulliau Gweithio

Y Rhyngweithio rhwng y Lletywr a'r Pathogen

Rydym yn cynnal dadansoddiadau systematig o ymateb y lletywr i haint M. bovis a brechlyn BCG. Ymhlith ein dulliau gwaith mae ymchwiliadau imiwnolegol, defnyddio technolegau  sy'n seiliedig ar genomeg swyddogaethol, gan gynnwys dilyniannodi RNA, proteomeg a metabolomeg, ac astudio rhyngweithiad M. bovis a BCG gyda chelloedd imiwnedd y lletywr.

Deall trosglwyddiad M. bovis yng Nghymru

Rydym yn gweithio'n agos â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a Llywodraeth Cymru i ddiffinio strwythur poblogaeth M. bovis yng Nghymru gan ddefnyddio dilyniannodi genomau cyfan yn sail i well targedu ar strategaethau rheoli bTB mewn gwahanol sefyllfaoedd epidemiolegol yng Nghymru. Bwriadwn hefyd geisio canfod a geir gwahaniaethau ffenoteipaidd rhwng clonau trechol M. bovis yng Nghymru ac, os oes, a ydynt yn effeithio ar ymateb anifeiliaid i'r haint o safbwynt imiwnedd.

Cydweithio â Gwledydd Incwm Isel a Chanolig

Datblygu sylfaen o dystiolaeth er mwyn cefnogi datblygu strategaethau rheoli bTB mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig. Gwneir hyn ar hyn o bryd drwy Gonsortia ETHICOBOTS (menter ZELS). Dyfarnwyd prosiect ETHICOBOTS i gonsortiwm o ymchwilwyr yn Ethiopia a'r DU, gan gynnwys epidemiolegwyr, genetegwyr, imiwnolegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol.  Nod ETHICOBOTS yw mynd i'r afael â baich mawr TB buchol yn sector ffermydd godro Ethiopia ac ymchwilio i'r modd y mae'r masnachu allgyrchol parhaus ar wartheg godro a allai fod wedi'u heintio i ranbarthau a systemau ffermio lle mae cyfraddau'r afiechyd yn isel yn effeithio ar drosglwyddiad yr afiechyd.

Adnoddau

Adnoddau

Ariannwyd yr offer yn ein labordai ymchwil milfeddygol arloesol trwy gyfrwng grant gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ('Sefydlu Labordai Ymchwil Milfeddygol Arloesol i Gymru'). Yn ogystal â hyn, mae labordai Canolfan a Labordai Milfeddygol1 a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn darparu'r cyfleusterau cyfyngu Categori 3 sy'n rhan hanfodol o'n gwaith. Ynghyd, mae'r adnoddau hyn yn ein galluogi i wneud gwaith ymchwil arloesol ym maes microbioleg, imiwnoleg a geneteg ficrobaidd, ac yn hwyluso astudiaethau manwl o'r rhyngweithio rhwng y lletywr a'r pathogen.

Ymhlith yr adnoddau ymchwil allweddol ceir: 

  • Cyfres o Labordai Cyfyngu Lefel 2 a 3.
  • Cypyrddau Diogelwch Microbiolegol Dosbarth I, Dosbarth II a Dosbarth III
  • Microsgopeg - sganio sleidiau, fflworoleuol a maes llachar (Zeiss Axio Scan Z1 ac Axio Imager Z2)
  • Profion moleciwlaidd (qRT-PCR) ac imiwnolegol (ELISA) trwybwn uchel.
  • Darllenydd ELISPOT (CTL Immunospot S6 Universal)
  • Dadansoddwr Amlbleth (Luminex 200)
  • Trin hylifau wedi'i awtomeiddio (Eppendorf EpMotion 5075t)
  • Sytometreg Llif - Dadansoddwr (Beckman Coulter Cytoflex LX) a dosbarthwr celloedd (Miltenyi Biotec Tyto)
  • Dadansoddi Metabolaidd (platfform Agilent Seahorse XF)
  • System Dadansoddi Celloedd Unigol (Becton Dickenson Rhapsody)
  • Trawsgrifomeg (Nanostring Sprint Profiler)
  • Microchwistrellu (WPI Microinjector MICRO ePUM gyda bwrdd aer)

Prosiectau

Prosiectau

  • Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol Cymru Sêr Cymru (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop/Llywodraeth Cymru).
  • Sefydlu Labordai Ymchwil Milfeddygol Arloesol ar gyfer Cymru (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru).
  • Dulliau metabolomig a phroteomig o ganfod biofarcwyr targed fel dadansoddion er mwyn datblygu gwell profion diagnostig ar gyfer TB Buchol - Rhaglen KESS yr UE.
  • Gwella'r gwaith o ganfod twbercwlosis buchol mewn moch daear - rhaglen KESS yr UE.
  • Atal lledaeniad TB rhwng bywyd gwyllt a da byw (STOP) (CIDRA).
  • ETHICOBOTS (Ethiopia Control of Bovine Tuberculosis Strategies) (rhaglen Zoonoses and Emerging Livestock Systems (ZELS)).
  • Asesu ffactorau risg ar gyfer Twbercwlosis Buchol gan ddefnyddio setiau data mawr.
  • Rydym yn gweithio hefyd gyda Chanolfan a Labordai Milfeddygol1 i siapio ymchwil a datblygu ym maes iechyd anifeiliaid/iechyd y cyhoedd.

Allbwn ac Effaith

Allbwn ac Effaith

Arloesi

Datblygwyd prawf diagnostig i wahaniaethu rhwng gwartheg sydd wedi'u brechu â BCG a'r rhai sydd wedi'u heintio ag M. bovis gan dimau yr Athro Glyn Hewinson a'r Athro Martin Vordermeier tra oeddent yn gweithio yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.  Bellach mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal treialon maes i ddeall pa mor dda mae'r cyfuniad hwn o frechlyn a phrawf diagnostig yn gweithio yn y maes, fel cam tuag at eu trwyddedu er mwyn eu defnyddio mewn gwartheg. Ceir rhagor o fanylion fan hyn:

  1. Prawf croen DIVA i gyd-fynd â brechu BCG mewn gwartheg
  2. Profion brechlyn TB buchol

Cyfnewid Gwybodaeth

Cynhadledd AberTB

Rydym wedi creu digwyddiad blynyddol er mwyn hwyluso cyfnewid gwybodaeth a chydweithio rhwng y byd academaidd, y proffesiwn milfeddygol, ffermwyr, llywodraeth a rhanddeiliaid eraill sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn TB buchol. Gallwch ddilyn y digwyddiadau ar Twitter @aber_tb er mwyn cael y newyddion diweddaraf.

GRABTB

Nod y Gynghrair Ymchwil Fyd-eang ar gyfer TB Buchol (GRAbTB) yw sefydlu a chynnal partneriaethau ymchwil byd-eang a fydd yn creu gwybodaeth ac arfau gwyddonol er mwyn cyfrannu at lwyddo i reoli a dileu TB buchol. Cynorthwyodd yr Athro Hewinson i sefydlu'r fenter hon, a chafodd ei ethol yn Gadeirydd Cyntaf GRAbTB.

Polisi a rheoli TB buchol

Yn 2018, roedd yr Athro Hewinson yn awdur Adolygiad o Strategaeth TB Buchol Lloegr (Adolygiad Godfray), adroddiad i'r Gwir Anrh. Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol, Defra.

Yn 2016, roedd yr Athro Hewinson, yn ei swyddogaeth fel Cadeirydd GRAbTB, yn aelod o'r grŵp ad hoc a drefnwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (OIE), Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a'r Undeb Rhyngwladol rhag Twbercwlosis a Chlefyd yr Ysgyfaint er mwyn mynd i'r afael â TB milheintiol. Y cyfarfod hwn oedd yr ymgynghoriad cyntaf er mwyn ysgogi camau gweithredu yn erbyn TB milheintiol.  Cyhoeddwyd cynllun ar gyfer TB milheintiol yn deillio o'r cyfarfod hwn ar 12 Hydref 2017.

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Prof Darrell Abernethy daa47@aber.ac.uk +44 (0) 1970 621646
Prof Glyn Hewinson glh14@aber.ac.uk +44 (0) 1970 621559
Prof Bernardo Villarreal-Ramos bev10@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622319

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Frosini, S-M, Gallow, G, Gibson, A, Menezes, J, Pomba, C & Loeffler, A 2023, 'Detecting mecA in Faecal Samples: A Tool for Assessing Carriage of Meticillin-Resistant Staphylococci in Pets and Owners in the Microbiological ‘Fast Age’?', Microbiology Research, vol. 14, no. 1, pp. 60-66. 10.3390/microbiolres14010005
Subramanian, S, Srinivasan, S, Ramaiyan Selvaraju, K, Vinoli, PM, Selladurai, S, Ramasamy, B, Kumaragurubaran, K, Bakker, D, Vordermeier, M, Kapur, V & Gopal, DR 2022, 'Defined Antigen Skin Test for Bovine Tuberculosis Retains Specificity on Revaccination With Bacillus Calmette–Guérin', Frontiers in Veterinary Science, vol. 9, 814227. 10.3389/fvets.2022.814227
Gibson, AJ, Stiens, J, Passmore, IJ, Faulkner, V, Miculob, J, Willcocks, S, Coad, M, Berg, S, Werling, D, Wren, BW, Nobeli, I, Villarreal-Ramos, B & Kendall, SL 2022, 'Defining the Genes Required for Survival of Mycobacterium bovis in the Bovine Host Offers Novel Insights into the Genetic Basis of Survival of Pathogenic Mycobacteria', mBIO, vol. 13, no. 4. 10.1128/mbio.00672-22, 10.5281/zenodo.6576716
Taylor, EN, Beckmann, M, Hewinson, G, Rooke, D, Sinclair, LA & Mur, LAJ 2022, 'Metabolomic changes in lactating multiparous naturally MAP-infected Holstein-Friesian dairy cows suggest changes in mitochondrial energy pathways', Research in Veterinary Science, vol. 152, pp. 354-363. 10.1016/j.rvsc.2022.09.001
Taylor, EN, Beckmann, M, Hewinson, G, Rooke, D, Mur, LAJ & Koets, AP 2022, 'Metabolomic changes in polyunsaturated fatty acids and eicosanoids as diagnostic biomarkers in Mycobacterium avium ssp. paratuberculosis (MAP)-inoculated Holstein–Friesian heifers', Veterinary Research, vol. 53, no. 1, 68. 10.1186/s13567-022-01087-0
Scott-Baumann, J, Pizzey, R, Beckmann, M, Villarreal-Ramos, B, King, J, Hopkins, B, Rooke, D, Hewinson, G & Mur, LAJ 2022, 'Metabotyping the Welsh population of badgers based on thoracic fluid', Metabolomics, vol. 18, no. 5, 30. 10.1007/s11306-022-01888-6
Scott-Baumann, JF, Friedersdorff, JCA, Villarreal-Ramos, B, King, J, Hopkins, B, Pizzey, R, Rooke, D, Hewinson, G & Mur, LAJ 2022, 'The Faecal Microbiome of the Wild European Badger Meles meles: A Comparison Against Other Wild Omnivorous Mammals from Across the Globe', Current Microbiology, vol. 79, no. 12, 363. 10.1007/s00284-022-03064-4
Bauman, JS, Pizzey, R, Beckmann, M, Villarreal-Ramos, B, King, J, Hopkins, B, Rooke, D, Hewinson, G & Mur, LAJ 2022, 'Untargeted metabolomic analysis of thoracic blood from badgers indicate changes linked to infection with bovine tuberculosis (Mycobacterium bovis): A pilot study', Metabolomics, vol. 18, no. 8, 61. 10.1007/s11306-022-01915-6
Ábalos, P, Valdivieso, N, de Val, BP, Vordermeier, M, Benavides, MB, Alegría-Morán, R, Saadi, K, Wistuba, M, Ortega, C, Sánchez, N & Retamal, P 2022, 'Vaccination of Calves with the Mycobacterium bovis BCG Strain Induces Protection against Bovine Tuberculosis in Dairy Herds under a Natural Transmission Setting', Animals, vol. 12, no. 9, 1083. 10.3390/ani12091083
Faulkner, V, Cox, AA, Goh, S, van Bohemen, A, Gibson, AJ, Liebster, O, Wren, BW, Willcocks, S & Kendall, SL 2021, 'Re-sensitization of Mycobacterium smegmatis to Rifampicin Using CRISPR Interference Demonstrates Its Utility for the Study of Non-essential Drug Resistance Traits', Frontiers in Microbiology, vol. 11, 619427. 10.3389/fmicb.2020.619427

Ceir rhagor o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »