Astudiaeth newydd yn mapio tirwedd enetig TB mewn gwartheg ledled Cymru

Credyd: Sergio Arteaga, Pexels
11 Tachwedd 2026
Yn ôl y dadansoddiad manylaf a wnaed hyd yn hyn ar y twbercwlosis mewn gwartheg, mae’r bacteriwm yn esblygu mewn gwahanol ffyrdd ar draws gwahanol ranbarthau o Gymru.
Mae TB buchol - un o'r heriau mwyaf sylweddol i iechyd anifeiliaid yng Nghymru - yn effeithio ar iechyd gwartheg a busnesau amaeth, ac yn rhoi pwysau emosiynol, cymdeithasol ac ariannol sylweddol ar gymunedau ffermio.
Trwy ddeall sut mae'r bacteriwm yn ymledu rhwng gwartheg ac anifeiliaid gwyllt ac yn newid dros amser, gall ymchwilwyr helpu i ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o reoli'r clefyd.
Gwnaeth yr ymchwil ddiweddaraf - dan arweiniad gwyddonwyr yng Nghanolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth - ddefnyddio dilyniannu genom-cyfan i ddadansoddi DNA y bacteriwm Mycobacterium bovis.
Yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature Scientific Reports, archwiliwyd 379 sampl a gasglwyd o anifeiliaid heintiedig ledled Cymru yn 2021.
Canfu'r ymchwil fod gwahanol ranbarthau yng Nghymru yn cynnwys gwahanol fathau genetig o'r bacteriwm, sy'n awgrymu ei fod yn esblygu'n wahanol mewn gwahanol ranbarthau o'r wlad mewn ffyrdd a allai effeithio ar sut mae'n goroesi a rhyngweithio â'i anifeiliaid lletyol.
Daeth yr ymchwil o hyd i fathau hefyd nas ceir fel arfer yng Nghymru, sydd efallai’n deillio o symud gwartheg i mewn o'r tu allan i'r wlad.
Mae'r canfyddiadau yn darparu gwybodaeth bwysig am fioleg y clefyd ac yn codi meysydd i'w hastudio yn y dyfodol.
Dywedodd y prif awdur Dr Amy Healey, Darlithydd mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Trwy ddadansoddi dilyniannau’r genom mewn samplau o Mycobacterium bovis, roedd modd i ni greu’r darlun manylaf hyd yma o amrywiaeth genetig y bacteriwm yng Nghymru. Mae ein canfyddiadau yn dangos pwysigrwydd deall sut y trosglwyddir clefydau ar lefel leol, a sut y gall genomeg ein helpu i symud y tu hwnt i olrhain trosglwyddiad clefydau tuag at ddeall bioleg y pathogen ei hun."
Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Amanda Gibson, Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI a Darlithydd mewn Imiwnoleg Gynhenid ym Mhrifysgol Aberystwyth:
DRAFT "Yn ogystal â dod o hyd i wahanol glystyrau genetig a thystiolaeth ei bod yn bosib bod rhai straeniau wedi’u cyflwyno o'r tu allan i Gymru, daethom o hyd i wahaniaethau genetig a allai effeithio ar sut mae'r bacteriwm yn goroesi, ymaddasu, a rhyngweithio â'i letywyr. Er bod angen mwy o ymchwil i ddeall arwyddocâd yr amrywiadau hyn, mae ein canfyddiadau yn rhoi’r darlun manylaf eto o'r boblogaeth M. bovis yng Nghymru. Bydd yr adnodd gwerthfawr hwn yn helpu ymchwilwyr i ddeall pam mae TB buchol yn goroesi, ac yn helpu i ddatblygu strategaethau mwy effeithiol i reoli clefydau yn y dyfodol."
Defnyddiodd yr astudiaeth ddilyniannu genom-cyfan, techneg sy'n darparu llawer mwy o fanylion genetig na’r dulliau a ddefnyddiwyd i astudio’r bacteriwm o’r blaen.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth ar y cyd â chydweithwyr o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, a Phrifysgol y Frenhines, Belfast. Fe'i hariannwyd gan brosiect Sêr Cymru II a gynhelir gan yr Athro Glyn Hewinson a oedd yn gyfrifol am sefydlu Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Gwartheg. Ariannwyd gwaith dilyniannu arunigion o M. bovis gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghyd â Llywodraethau Cymru a'r Alban.
AU21726
