Dosbarthiadau Dŵr

Acwaffit

y pwll nofio yn y ganolfan chwaraeon

  • Dydd Mercher: 7.15 - 8.00pm, Pwll Nofio'r Brifysgol gyda Krystal Waltho

Ymarfer gwych yn y dŵr. Gwaith i siapio a chryfhau’r corff, gyda symudiadau i’ch helpu i ddod yn ffit a cholli pwysau.

Mae’r dosbarthiadau hyn yn addas i rai nad ydyn nhw’n mwynhau aerobeg ar dir. Efallai eich bod yn hunanymwybodol neu fod gennych broblem â’ch cymalau sy’n eich atal rhag cymryd rhan lawn mewn mathau eraill o chwaraeon. Bydd ein dosbarthiadau dŵr yn gyfle i chi ymarfer yn hyderus a gwella’ch ffitrwydd cyffredinol. Mae’r dosbarthiadau hefyd yn addas i rai nad ydynt yn gallu nofio.


Therapi Dŵr (45 munud)

  • Dydd Gwener: 10.30am - 11.15am, Pwll Nofio'r Brifysgol gyda Jo Maltman.
Ymarfer gwych mewn dŵr dwfn, gan wisgo gwregys arnofio er mwyn i chi allu gweithio mewn modd effeithiol ond cwbl ddiogel. Mae’r dosbarth hwn yn ffordd wych o ystwytho’ch cymalau, yn ogystal â gwella’ch ffitrwydd cyffredinol.

Gwersi Nofio

P’run a ydych am ddysgu sut i nofio neu wella eich techneg, mae gennym Wersi Nofio sy’n addas i chi. Gallwn hefyd drefnu sesiynu un i un gyda'n hyfforddwyr asa.

Nofio-ffit

Yn chwilio am ddosbarth dŵr i wella eich ffitrwydd, neu eisiau gwella eich techneg nofio? Yna Nofio-ffit yw'r dosbarth i chi. Mae'n debyg i sesiwn nofio Meistr ond gyda mwy o bwyslais ar dechneg.