Aerobeg
Ers i Jane Fonda gyflwyno “going for the burn” ddechrau’r 80au, prin fod unrhyw ddull arall o ymarfer wedi dod yn agos at aerobeg, o ran poblogrwydd a chynaliadwyedd.
Bydd cerddoriaeth ysgogol a hyfforddwyr brwdfrydig yn eich arwain drwy ymarferion i ystwytho’r corff a chodi’r pyls ac estyniadau tyner, cyn dwysáu’r ymarfer gyda symudiadau hawdd eu dilyn hyd nes eich bod yn chwysu, yn mwynhau eich hun ac yn teimlo’n wych – dewch i ryddhau tensiwn, cael hwyl a dod yn ffit!
I gwblhau’r ymarfer cyflawn, byddwn yn eich dysgu sut i siapio a chryfhau’ch stumog, eich cluniau a’ch penolau. Ar ddiwedd y sesiwn, byddwn yn gwneud ymarferion ymestyn ac ymlacio i’ch adfywio a’ch ailfywiogi, gan sicrhau eich bod yn barod i wynebu unrhyw beth.Dosbarthiadau
- Deiet ar y Llawr Dawnsio – dydd Llun: 13.10-13.55, yr Ystafell Ddawns gyda Rachel Hubbard
- Aeroffit – dydd Mawrth: 5.30pm - 6.30pm, yr Ystafell Ddawns gyda Helen Stockley
- Aeroffit – dydd Iau: 5.30pm - 6.30pm, yr Ystafell Ddawns gyda Rachel Hubbard
- Aerosiapio - dydd Mercher: 1.10-1.55pm, yr Ystafell Ddawns gyda Helen Stockley.
Deiet ar y Llawr Dawnsio
40 munud o aerobeg effaith isel – ffordd wych o gael gwared ar galorïau.- Deiet ar y Llawr Dawnsio – dydd Llun: 1.10pm - 1.55pm, yr Ystafell Ddawns gyda Rachel Hubbard
Aeroffit
Dosbarth aerobeg traddodiadol o ymarfer egnïol, gyda chyfnod o siapio, ymestyn ac ymlacio ar y diwedd.
Aeropwmp
Dosbarth sy'n cyfuno symudiadau pwysau dolennog gyda chamau gwrthdaro ysgafn, dymbels ysgafn a cherddoriaeth i'ch ysgogi - bydd y dosbarth hwn yn siapio a cherfio eich corff ac mae'n fodd gwych i losgi caloriau yn ystod eich awr ginio...
- Aeropwmp - Dydd Mercher 1.10pm - 1.55pm, Ystafell Ddawns gyda Hubbard, Rachel