Dosbarth 'Bodyfit'

Mae hwn yn ddosbarth gwych, sy’n seiliedig ar fformiwla Muscle Max (Body Pump, Body Max ac ati), lle cewch eich arwain drwy ymarferion wedi’u strwythuro gyda phwysau rhydd a dymbels. Y nod yw gorlwytho pob un o’ch cyhyrau yn ei dro er mwyn siapio a thynhau’r corff. Mae hwn yn ddosbarth cymysg i ddynion a menywod.

Mae’n hanfodol archebu lle ym mhob dosbarth Bodyfit oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Cofiwch archebu lle yn gynnar i sicrhau na chewch eich siomi.

Sylwch fod rhaid i chi gofrestru am semester cyfan i sicrhau lle mewn unrhyw ddosbarth Bodyfit.

Os oes gennych Gerdyn Aur, rhaid i chi nodi i ba ddosbarth Bodyfit yr hoffech fynd er mwyn i ni ychwanegu’ch enw at y rhestr.