AberPreneurs - Troi Syniadau Busnes yn Realiti
Digwyddiadau 2024
DYDDIAD CAU CYSTADLEUAETH AWST 19!
Os ydych yn fyfyriwr neu yn graddio yn 2023/4 ac os oes gennych syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol sydd yn barod i’w gwireddu erbyn 25 Medi, yna beth am gynnig a rhoi cyfle i’ch hunan ennill £10,000 a gwobrau ariannol eraill? Fe ddaw mwy o wybodaeth yn fuan...os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch aberpreneurs@aber.ac.uk
Cynhyrchu Syniadau
- Mae’r gweithdy hwn yn hanfodol os ydych chi’n eisiau dechrau busnes neu fenter gymdeithasol newydd, ond nid oes gennych y Syniad Mawr hwnw eto
- Yn rhad ac am ddim I fyfyrwyr, graddedigion , staff ac eraill sydd a diddordeb mewn datblygu busnes neu fenter gymdeithasol.
- Dydd Mercher 22 Mai 2.10-3yp. Ymunwch yma Ideas Generation - Enterprise Event
'Wythnos cychwyn yr Haf - 4 - 6 Mehefin -
Byddwch yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod i ddechrau eich busnes neu fenter gymdeithasol gan gynnwys:
- Ymchwil i'r Farchnad
- Marchnata a Brandio
- Treth
- Cyllid a Chadw llyfrau
- Busnes cynaliadwy/busnes eco-gyfeillgar
- Agweddau cyfreithiol ar ddechrau busnes
- Amddiffyn eich IP
- Y camau nesaf a’r gefnogaeth sydd ar gael
- Sesiwn rhwydweithio anffurfiol ar ddiwedd pob diwrnod
Bydd hefyd Modelau Rôl Ysbrydoledig yn rhannu eu syniadau a’u harbenigedd ar sut y gwnaethant ddechrau eu busnesau, gan roi awgrymiadau amhrisiadwy i chi ar gyfer eich taith.
I archebu ebostiwch: aberpreneurs@aber.ac.uk
Cymorth i gychwyn busnes yn ABER
Oes arnoch chi eisiau gweithio i chi'ch hun?... rydym yn helpu myfyrwyr, graddedigion a staff i ddechrau busnesau newydd:
Rydym yn darparu:
- Gwybodaeth
- Cyngor
- Hyfforddiant
- Ariannu
Cofiwch:
- Rydym yn cynnig 'Mentora Busnes' 1:1 am ddim ar-lein/wyneb yn wyneb
Darllenwch ein Hanesion am Lwyddiant yma: Dechreuadau busnesau graddedig
Edrychwch ar y 'Marchnad Myfyrwyr Cymru' - https://walesstudentmarket.co.uk/cy
Dolenni defnyddiol:
https://businesswales.gov.wales/
https://businesswales.gov.wales/bigideas/
Mae 'AberPreneurs' yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi menter:
- Cymorth Dechrau Busnes a Menter
- Digwyddiadau Menter
- Sgyrsiau Ysbrydoledig
- Mentwra un-i-un
- Cyngor ar Gyllid
- Rhwydweithio
Adroddiad Menter yn ABER 2023
Effaith Addysg Fenter ym Mhrifysgol Aberystwyth 2023 (Word)
Effaith Addysg Fenter ym Mhrifysgol Aberystwyth 2023 (PDF)
Cysylltwch â ni:
Os oes gennych chi syniad busnes ac yr hoffech rhywfaint o gyngor cysylltwch â:
Louise Somerfield/Tony Orme
E: aberpreneurs@aber.ac.uk
T: 01970 622378
I ddarparu ein ystod llawn o wasanaethau cychwyn busnes i chi, rydym yn cadw ac yn gwneud defnydd o’ch manylion personol ar sail diddordeb cyfiawn. Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data cyflawn yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Myfyrwyr a Graddedigion ; Gwybodaeth am Ddiogelu Data Cyflogwyr/Rhyngddeiliad
Mae cymorth menter a dechrau busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gefnogi trwy Cynllun Entrepreneuriaeth Ieuenctid Lywodraeth Cymru fel rhan o ymrwymiad Lywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.