Cyflwyniad i Argraffu
'Cyflwyniad i Argraffu' can be studied as a stand-alone course and is an optional course for the Certificate of Higher Education in Art and Design at Aberystwyth University.
Key Facts
Language: Welsh
Duration: 1 session
Number of Credits: 10
Tutor: Elin Crowley
Learning Method: Face to Face
Level: This module is at CQFW Level 4
Module Code: YD10910
Fee: £255.00 / Free - Fee Waiver Scheme available (See conditions below)
Rhaglen y Cwrs
Mae'r cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn cynnig taith gynhwysfawr o ddulliau argraffu 'relief' ac 'intaglio' ac yn annog dysgwyr i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol. Yn ystod y cwrs hwn, a fydd yn cael ei gyflwyno gan artist a gwneuthurwr printiau profiadol, bydd dysgwyr yn astudio ac yn datblygu gwahanol dechnegau argraffu gan gynnwys monoprint, argraffu tetrapack a thorri lino. Trwy waith unigol a gwaith grŵp, caiff ddysgwyr gyflwyniad i wahanol dechnegau a sgiliau megis lliw, tôn a chymysgu yn ogystal â chyfle i ddatblygu syniadau ar themâu a syniadau penodol sy'n gysylltiedig â'r pwnc. Bydd yr holl waith a grëir yn cael ei gynllunio o amgylch llun gwreiddiol o ffotograffau, llyfrau neu fywyd llonydd. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i arbrofi a gwthio'r ffiniau wrth ddysgu'r gwahanol dechnegau, gan ennill yr hyder a'r wybodaeth i barhau â'r prosesau yn y dyfodol.
Manylion y Cwrs
Yn ystod y cwrs, bydd y dysgwr yn astudio'r canlynol:
- Dull argraffu monoargraffu
- Dull argraffu Tetrapack ac incio intaglioCyflwyniad i dermau celfyddol a chyfryngau
- Cyflwyniad i wahanol dechnegau a sgiliau megis lliw, tôn a chymysgu
- Astudiaethau o artistiaid a’u gwaith
- Gwaith grŵp i ddatblygu syniadau ar themâu a syniadau penodol sy'n gysylltiedig â'r pwnc
- Dogfennu gweithgareddau, dulliau a deunyddiau.
Canlyniadau Dysgu
- Trafod a chyflwyno eu syniadau creadigol gyda lluniadau i gefnogi gwaith pellach.
- Paratoi'r ardal waith a chwblhau monoprintParatoi platiau ac argraffu print tetrapack.
- Paratoi platiau ac argraffu print lino amlliw.
- Ymgyfarwyddo â'r offer, yr inciau a'r toddyddion cywir ar gyfer glanhau.
Asesiadau
-
Portffolio o ddulliau printio a'r delweddau a wnaed yn y dosbarth a thrwy astudiaethau hunangyfeiriedig. (100%)
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
