Newyddion
Y Brifysgol yn croesawu cefnogaeth Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith i’r blaned Mawrth
Mae’r tîm ExoMars yn y Brifysgol wedi croesawu cefnogaeth o'r newydd gan Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith y crwydryn Rosalind Franklin, prosiect blaenllaw a fydd yn gweld lansiad crwydryn cyntaf Ewrop i’r blaned Mawrth yn 2028.
Darllen erthygl
Bydd cytundeb heddwch Wcráin yn dibynnu ar warantau diogelwch – ond mae Kyiv wedi bod yno o'r blaen
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers yn egluro sut y llofnododd cynghreiriaid gorllewinol Rwsia a Kyiv Femorandwm Budapest ym 1994 yn gwarantu sofraniaeth Wcráin, ond nid oedd yn werth y papur yr oedd wedi'i ysgrifennu arno.
Darllen erthygl
Ymchwilio i hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru cyn y GIG
Bydd prosiect ymchwil newydd yn craffu ar hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru, gan ystyried sut y defnyddiwyd planhigion i drin salwch a hybu iechyd cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Darllen erthygl
Ioan Mabbutt o Aberystwyth yn ennill Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg
Ioan Mabbutt, 18 oed o Aberystwyth, sydd wedi ennill ysgoloriaeth gwerth £2,500 i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen erthygl
Taith gerdded elusennol y Brifysgol yn codi arian ar gyfer HAHAV
Cyflwynodd staff Prifysgol Aberystwyth siec am dros £5,000 i HAHAV Ceredigion, Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2024-25.
Darllen erthygl
Coffáu ffoaduriaid rhyfel mewn arddangosfa Senedd
Mae arddangosfa yn y Senedd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru sy’n coffáu ffoaduriaid rhyfel wedi’i hagor gan Weinidog o Lywodraeth Cymru.
Darllen erthygl
Pam y dylai'r DU edrych y tu hwnt i dwf at 'economeg newydd' sy'n gweithio i bawb
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Jasper Kenter yn trafod sut ni all economeg draddodiadol ymateb i argyfyngau byd-eang fel anghydraddoldeb a newid hinsawdd.
Darllen erthygl
Gallai model mathemateg ddatgloi triniaethau meddygol newydd
Gellir gwneud i ronynnau sydd mor wahanol â swigod sebon a phelferynnau drefnu eu hunain yn union yn yr un modd, yn ôl astudiaeth newydd a allai ddatgloi’r broses o greu deunyddiau newydd sbon - gan gynnwys y rhai hynny sydd â dibenion biofeddygol addawol.
Darllen erthygl
Mae uwchgynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig sydd ar ddod i Frasil yn tynnu sylw at ba mor anodd yw cadw at addewidion hinsawdd
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Hannah Hughes yn egluro sut mae gan lywyddiaeth Cop30 Brasil rôl hanfodol i'w chwarae fel cyfryngwr ac adeiladwr pontydd i gynyddu uchelgais gyfunol llywodraethau.
Darllen erthyglLansio arolwg ar fusnesau cefn gwlad Cymru
Mae tîm o academyddion a arweinir gan y Brifysgol yn cynnal ymchwil newydd i gyflwr busnesau cefn gwlad yng Nghymru.
Darllen erthygl
Sut y meistrolodd y gwleidydd Charles Fox, o'r 18fed ganrif, wleidyddiaeth personoliaeth ymhell cyn Trump a Farage
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Callum Smith yn trafod Charles Fox, gwleidydd carismatig, dadleuol ac yn adnabyddus am ei ddyfyniadau diddiwedd, a sut y gwnaeth adeiladu mudiad gwleidyddol o’i gwmpas ei hun.
Darllen erthygl
Cyfryngau Rwsia yn ‘tawelu’ gwrthwynebiad mamau i ryfel – adroddiad
Mae cyfryngau gwladwriaeth Rwsia yn tawelu gwrthwynebiad mamau i’r rhyfel yn Wcrain, yn ôl astudiaeth newydd.
Darllen erthygl
Cynnig ar y cyd i sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd yng Nghymru
Mae Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth wedi datblygu cynnig cychwynnol ar y cyd i Lywodraeth Cymru sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd.
Darllen erthygl
Aberystwyth yw Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru
Heddiw, 31 Hydref 2025, mae Aberystwyth Ceredigion yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru gan ymuno â rhwydwaith byd-eang o 350 o ddinasoedd ledled y byd sydd wedi’u cydnabod am eu bod yn ‘Ddinasoedd Creadigol’.
Darllen erthygl
Gwnaeth trychinebau argaeau’r 1920au gronfeydd dŵr yn fwy diogel – nawr mae’r argyfwng hinsawdd yn cynyddu’r risg eto
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Stephen Tooth yn egluro sut, ers Dolgarrog, mae gan y DU record diogelwch cronfeydd dŵr rhagorol ond mae trychinebau'n dal i ddigwydd.
Darllen erthygl