Newyddion
Ymchwilwyr yn y Cenhedloedd Unedig yn trafod trais yn erbyn menywod hŷn
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi rhannu eu harbenigedd yn y Cenhedloedd Unedig ar atal ac ymateb i drais yn erbyn menywod hŷn.
Darllen erthygl
Dathlu dynodiad Dinas Llên drwy oleuo Castell Aberystwyth
Mae llwyddiant diweddar Aberystwyth a Cheredigion i ddod yn Ddinas Llên UNESCO wedi’i ddathlu trwy daflunio arddangosfa o gelf leol ar Gastell Aberystwyth.
Darllen erthygl
Beth mae hiwmor yn ei olygu i bobl hŷn – a pham mae rhai yn ei chael hi'n anodd dal ati i chwerthin
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Heather Heap o'm Hadran Seicoleg yn trafod sut nad yw cymaint ynglŷn â phobl hŷn yn colli eu hiwmor, ag ynglŷn â newidiadau yn y ffordd y gallant ei ddefnyddio a'i fwynhau.
Darllen erthygl
Gallai prawf syml i brofi wrin ganfod canser y fron yn ei gyfnod cynnar
Cyn hir, gallai pecyn syml, anfewnwthiol i wneud profion yn y cartref drawsnewid y broses o ganfod canser y fron yn gynnar, diolch i ymchwil arloesol sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Datblygu model newydd i ragfynegi tywydd y gofod
Mae ymdrechion newydd i ragfynegi tywydd y gofod yn fwy cywir a dibynadwy yn cael eu harwain gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Cyfnewidfa Busnes ac Arloesi Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd busnesau o bob rhan o’r Canolbarth yn dod at ei gilydd i drafod heriau allweddol sy’n wynebu’r sector mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Brifysgol Aberystwyth fis nesaf.
Darllen erthygl
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg.
Darllen erthygl
Hanes yr alwad ffôn gyntaf – naw gair a newidiodd y byd
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Iwan Morus yn esbonio mae nid Alexander Graham Bell oedd yr unig berson a geisiodd ddyfeisio'r ffôn. Ond 150 mlynedd yn ôl, enillodd y ras – o drwch blewyn – a hanes yw'r gweddill.
Darllen erthygl
Ysgrifenwyr Cymraeg yn cydweithio i herio casineb tuag at fenywod gyda cherdd gydweithredol
Mae grŵp o ysgrifenwyr Cymraeg – gan gynnwys y bardd a’r ddarlithwraig Mari Ellis Dunning o Aberystwyth – wedi dod ynghyd i ryddhau cerdd cydweithredol newydd, They Call Us, er mwyn herio casineb yn erbyn rhyw a chasineb yn erbyn menywod.
Darllen erthygl
Gweinidog Diogelwch y DU yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth
Mae Gweinidog Diogelwch Llywodraeth y DU ac un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Dan Jarvis MBE AS, wedi annerch myfyrwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystod ymweliad â'r Brifysgol.
Darllen erthygl
Rhin gwymon yn dangos buddiannau gwrthlidiol ac iechyd y perfedd addawol
Gallai rhin gwymon gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles, yn ôl gwyddonwyr sy'n ei brofi fel rhan o ymdrechion i wella iechyd y genedl.
Darllen erthygl
Cam-drin pobl hŷn yn 'weladwy ond heb ei weld' gan wasanaethau cyhoeddus – adroddiad
Gall gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn aml fethu cam-drin domestig pobl hŷn ac mae angen iddynt greu mannau diogel i siarad allan, yn ôl ymchwil newydd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Gwyddonwyr yn datgelu’r senarios gorau a gwaethaf posibl o ran yr Antarctig yn cynhesu
Mae ymchwil ryngwladol newydd yn dangos y bydd y dewisiadau a wnawn yn y degawd nesaf yn penderfynu tynged Antarctica am ganrifoedd.
Darllen erthygl
Mae gwawdio pobl am eu dosbarth yn wahaniaethu – felly pam nad ydyn ni’n ei drin fel hynny?
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Toni Beardmore yn trafod sut mae tynnu coes ynglŷn â ble rydych chi'n dod neu sut rydych chi'n siarad yn anoddach i'w ddiffinio na hiliaeth neu rywiaeth, ond mae'n niweidiol.
Darllen erthygl
Ffilm am straeon mudwyr yn ennill gwobr rhyngwladol
Mae ffilm newydd sy’n adrodd straeon personol mudwyr sy’n ffoi i Istanbul wedi ennill gwobr cyn iddi gael ei rhyddhau fis Ebrill eleni.
Darllen erthygl
Mae pysgod yn defnyddio mwy o egni i aros yn llonydd nag a feddyliwyd yn flaenorol
Mewn erthygl yn The Conversation, mae gwyddonydd cyfrifiadurol Dr Otar Akanyeti yn esbonio pam bod pysgod sy'n ymddangos i aros yn ddisymud mewn dŵr yn gweithio'n galetach nag y disgwylir.
Darllen erthygl
Pam mae'r terfyn cyflymder o 20mya wedi dod yn fater mor wleidyddol yn etholiad Cymru?
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Michael Woods a'r Athro Charles Musselwhite yn egluro sut mae pleidiau gwleidyddol yn awyddus i drafod eu safbwyntiau ar y terfyn cyflymder 20mya yn ystod ymgyrch etholiadau'r Senedd.
Darllen erthygl