Bioleg a Newid Hinsawdd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod FC72 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
FC72-
Tariff UCAS
120 to include B in A-level Biology or equivalent - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
32%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrRhowch hwb i'ch gyrfa a’r dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa gyda’n gradd BSc Microbioleg gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi mantais i chi mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol gystadleuol. Bydd y flwyddyn lle byddwch i ffwrdd o’r Campws yn gweithio mewn diwydiant yn rhoi ichi’r ddealltwriaeth, yr wybodaeth a’r profiad y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Mae’r cwrs gradd BSc Bioleg a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio i'r ffordd y mae system hinsawdd y Ddaear yn dibynnu ar nifer o ffactorau cysylltiedig yn cydweithio er mwyn gweithredu, y gwahanol ffactorau sy’n ysgogi’r newid yn yr hinsawdd, a’r ffyrdd creadigol o ymateb i heriau a chyfleoedd yr argyfwng hinsawdd presennol. Bydd BSc Bioleg a Newid Hinsawdd yn rhoi ichi wybodaeth berthnasol sy’n benodol i’r pwnc, ynghyd â’r sgiliau a’r priodoleddau amlddisgyblaethol, rhyngbersonol sydd eu hangen er mwyn creu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy. Os mai eich bwriad yw cael dylanwad mwy cadarnhaol ar y byd, bydd y cynllun hwn yn gychwyn cadarn ar y daith honno, a fydd yn un llawn boddhad.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 gan gynnwys B Safon Uwch Bioleg neu gyfatebol - 104
Safon Uwch BBB-BCC with B in Biology/Human Biology
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|