Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth
BA Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth Cod QN51 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
QN51-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
80%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrYn y Gymru gyfoes mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol dwyieithog o’r safon uchaf. O ddewis astudio Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn cyfuno sgiliau ieithyddol a phroffesiynol y Gymraeg ag arbenigedd mewn busnes a rheolaeth, a thrwy hynny yn agor drysau i ragolygon gyrfaol gwych. Ar y cwrs arloesol hwn, cewch gamu i’r byd busnes yng Nghymru ac ennill sgiliau a phrofiadau hynod werthfawr. Bydd cyfle ichi ddysgu sut i weinyddu, golygu, cyfieithu a marchnata. Cewch hefyd ennill sgiliau rheoli, cyflwyno, arwain a chydweithio, a dysgu am entreprenwriaeth a datblygu eich busnes eich hun.
Mae Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith, ac mae cyfle unigryw i’w astudio hyd yn oed os nad ydych chi wedi astudio Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|