Sgorau Uchel i’r Ysgol Fusnes am Foddhad Myfyrwyr

10 Awst 2016

Mae Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth wedi cael sgôr ardderchog o 90% am foddhad cyffredinol gan fyfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol 2016 yr NSS.

Yn ogystal â chanlyniadau gwych yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, cafodd cwrs gradd israddedig Cyfrifeg a Chyllid yr adran y sgôr uchaf posib o 100% am foddhad cyffredinol gan fyfyrwyr a gymerodd ran yn yr arolwg blynyddol.

Mae llwyddiannau’r Adran yn rhan o lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ar y brig yng Nghymru, ac ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr arolwg blynyddol.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sef chwe phwynt canran yn uwch na ffigur y Deyrnas Unedig o 86%.

Mae’r Arolwg yn casglu data o 155 o Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, a chaiff ei gydnabod fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau.

Meddai Pennaeth Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Michael Christie: “Ein nod yw cynnig ystod hynod o berthnasol o gyrsiau o’r radd flaenaf, sy’n darparu myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y byd sydd ohoni, sy’n newid yn gyson.  Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf hwn yn rhai calonogol dros ben, sy’n adlewyrchu gallu’r tîm i gyflenwi ac ymateb i anghenion y myfyrwyr.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio Busnes a Rheolaeth yn Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon, nid yw’n rhy hwyr i wneud hynny.  Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

Mae ffigurau’r Arolwg yn dod yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 96% o raddedigion yr Ysgol Rheolaeth a Busnes mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau cyllido addysg uwch y Deyrnas Unedig, a chyfwelir tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Mae’n gofyn i fyfyrwyr i roi sgôr i’w prifysgolion ar gyfer ystod eang o agweddau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesiadau ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygiad personol.