Gwybodaeth i Ymgeiswyr Llwyddiannus

Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi cael eich derbyn i Brifysgol Aberystwyth, a rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Edrychwch ar yr adrannau isod gan eu bod wedi cael eu hysgrifennu i'ch helpu i ganfod eich traed fel glasfyfyrwyr. Os byddwch angen unrhyw help yn ystod y cyfnod cyffrous hwn mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r manylion cyswllt ac fe geisiwn eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

Os nad ydych wedi derbyn eich canlyniadau eto, neu mae eich cynnig dal yn un amodol, cliciwch yma!