Croeso gan yr Is-Ganghellor
Llongyfarchiadau a chroeso cynnes iawn i Brifysgol Aberystwyth.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i gyd i Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n ei ddarganfod, mae Aber yn lle arbennig iawn, ac rwy’n gobeithio y cewch groeso cynnes ac y byddwch yn ymgartrefu yma’n gyflym. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn innau hefyd yn fyfyriwr newydd yma, ac rwy'n gobeithio y cewch chithau brofiadau a fydd yn cyfoethogi ac yn newid eich bywyd, fel y cefais i. Dyma eich lle i ddatblygu’n academaidd ac yn bersonol, i wireddu eich potensial a chreu argraff ar y byd.
Mae’r Brifysgol wedi bod yma yn Aber ers dros 150 o flynyddoedd, a’n ffocws bob amser yw sicrhau eich bod yn cael addysg ragorol. Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion sy'n arweinwyr yn eu meysydd ac a fydd yn rhannu'r syniadau a'r darganfyddiadau diweddaraf gyda chi yn eu pynciau. Byddwch hefyd yn profi cymorth rhagorol i fyfyrwyr sydd wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch astudiaethau a'ch amser gyda ni yma yn Aberystwyth.
Cyn bo hir byddwch yn ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd, wedi’ch amgylchynu gan bobl newydd, profiadau newydd, a llu o gyfleoedd yr wyf yn eich annog i fanteisio arnynt. Gall newid fod ychydig yn frawychus weithiau, ond gallwch fod yn sicr bod lle i chi yma yn Aber. Ymweld â’r tudalennau gwe hyn yw’r cam cyntaf i gael gwybod am y cyfan sydd ar gael i’ch helpu a’ch cefnogi wrth i chi addasu i fywyd yn y brifysgol. Mae’r tudalennau hyn yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am bopeth o’r cyfnod cyn cyrraedd, gweithgareddau ymgartrefu, a chyflwyniadau a gweithgareddau yn eich adran academaidd. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ymarferol ddefnyddiol fel rhestrau gwirio, mapiau a llawer mwy.
Dymunaf y gorau i chi ar gyfer eich dyddiau a’ch wythnosau cyntaf yn Aber, ac rwy’n gobeithio eich croesawu’n bersonol pan fyddwch yn cyrraedd ym mis Medi.
Yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor
