Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ym mis Ionawr 2026.
Yn ystod yr Wythnos Groesawu, bydd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i chi gymryd rhan ynddynt. P'un a ydych chi'n chwilio am rywbeth hwyliog, defnyddiol, neu'r ddau, bydd rhywbeth i bawb.
Mae eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol yma i'ch helpu i lywio'r digwyddiadau hyn ac amlygu'r rhai sydd wedi'u teilwra'n benodol i chi.
Nodwch, mae dwy ffordd o weld y Cynllunydd Ymgartrefu. Yn ddiofyn, bydd y wybodaeth yn cael ei harddangos ar ffurf cardiau, ond gallwch newid i wedd tabl drwy ddewis yr opsiwn tabl.
Byddwch yn gallu gweld eich amserlen yma o ddechrau mis Medi ymlaen.
Gweld eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol
Bydd angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol arnoch i fewngofnodi i'ch cynllunydd.
Bydd y tab ‘Ymgartrefu yn dy Adran’ yn dangos yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch adran.
Mae'r tap 'Gweithgareddau Croesawu Cyffredinol' yn cynnwys digwyddiadau sy'n agored i bob myfyriwr, megis teithiau o amgylch y Llyfrgell, digwyddiadau Undeb Aber, a sesiynau cwrdd a chroesawu.
Gallwch weld y wybodaeth fel cardiau digwyddiadau neu mewn fformat tabl, yn ôl eich dewis.
Gweld yr Holl Wybodaeth am Ddigwyddiadau
Gallwch hefyd ddod o hyd i'ch Cynllunydd Ymgartrefu Personol drwy fynd i training.aber.ac.uk a dewis 'Sesiynau sydd ar gael (Myfyrwyr)' o'r opsiynau. Bydd angen eich manylion mewngofnodi Prifysgol arnoch.
