Rhestrau Gwirio Croeso

Mae'r Rhestrau Gwirio Croeso hyn wedi eu cynllunio i chi ddilyn cyfarwyddiadau a strategaethau er mwyn teimlo'n gwbl barod i ddechrau gyda ni yn Aberystwyth. Mae ‘na dri cam i’w dilyn sy'n cynnwys Cofrestru, CynAber (Cyn Cyrraedd) a Cyrraedd Aber (Cyrraedd ac Ymgartrefu). Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, mae ‘na rhestrau mwy manwl o fewn y rhestrau gwirio sydd wedi'u hamlinellu islaw.
Er gwybodaeth, mae'r blychau sydd wedi eu lliwio mewn COCH yn cael eu hystyried yn dasgau hanfodol a'r rheini yn LAS yn cael eu hystyried yn dasgau argymelledig. Rydym wedi nodi amserlen hefyd ar gyfer pryd y dylai'r tasgau amrywiol hyn gae leu cwblhau.
Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!