Beth sydd ymlaen?
Mae eich antur yn Aberystwyth yn dechrau ym mis Medi 2026, ac rydym yn edrych ymlaen at eich helpu i wneud y gorau ohoni!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ac yn gobeithio eich gweld yn rhai o’r digwyddiadau sydd gennym ar y gweill. Mae rhywbeth yn digwydd yn y Brifysgol drwy’r amser – p’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth hwyl, defnyddiol, neu’r ddau – yn enwedig yn ystod y cyfnod croeso. Cymerwch olwg ar y tudalennau isod i ddod o hyd i ddigwyddiadau sydd o ddiddordeb i chi.
