Wythnos y Glas

Gobeithio y cewch amser anhygoel yma. Gallai’r wythnos gyntaf fod ychydig yn frawychus, ond peidiwch ag ofni, bydd Arwyr y Glas o gwmpas drwy’r penwythnos i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Mae digonedd o bethau i’w gwneud a phobl i ddod i’w nabod.

Myfyrwyr presennol yw Arwyr y Glas i gyd, ac fe fyddant yn gwisgo crysiau-t melyn prydferth iawn. Maen nhw yma i’ch helpu felly peidiwch ag ofni, ewch atynt a gofyn os oes angen help. Cadwch lygad ar ein gwefan am restr gyflawn o ddigwyddiadau Arwyr y Glas. Os oes gennych gwestiwn, cysylltwch ag union@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621700. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!

Cofrestru 

I gael gwybod pryd a ble y mae angen i chi gofrestru.

Digwyddiadau i Ymgeiswyr Llwyddiannus 

Gweler yr ystod lawn o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos y Glas.

Cyllid 

Edrych ar agweddau ariannol dechrau yn y brifysgol

Lawrlwytho Llawlyfr Wythnos Croesawu students sitting on chairs

Lawrlwytho Llawlyfr Wythnos Croesawu 2012

Newidiadau i’r wybodaeth ers cyhoeddi

Urdd 

I gael gwybod beth all Urdd y Myfyrwyr eu gynnig i chi.

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Uwchraddedig Newydd

Mae’r tudalennau canlynol wedi’u rhoi at ei gilydd i’ch helpu chi i ymgartrefu a gwneud y gorau o’ch profiad fel myfyriwr uwchraddedig yn Aberystwyth.