Y Print Mân

Dilysu

Dylai israddedigion a myfyrwyr HND newydd fedru profi eu bod wedi bodloni’r amodau academaidd angenrheidiol ar gyfer mynediad yn unol â gofynion Prifysgol Aberystwyth. Dylech fod yn barod i ddarparu tystiolaeth foddhaol o’ch cymwysterau naill ai cyn cofrestru neu yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau yn Aberystwyth.

Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod y sefydliad yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am y broses hon drwy’r ddolen gyswllt uchod.

Diogelu Data/ Diogelu Defnyddwyr

O dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr 2000 mae’n ofynnol inni sicrhau eich bod wedi derbyn ambell ddarn o wybodaeth benodol cyn ffurfio’r Contract. I gael mwy o fanylion cyfeiriwch at reoliadau’r brifysgol ar y mater hwn.

Y Drefn Gwyno

Gobeithiwn na fyddwch chi’n cael unrhyw broblemau wrth gael eich derbyn i Brifysgol Aberystwyth, nac yn ystod eich cyfnod yn astudio yma. Ond, os hoffech gwyno am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth derbyn a recriwtio, cysylltwch â ni.