Cronfa Aber (Cymorth i Fyfyrwyr)

3 male students with forest backdrop

Mae Cronfa Aber yn sianel ardderchog i ysbrydoli ac annog myfyrwyr i lwyddo y tu hwnt i’w disgwyliadau.

Trwy gyfrannu i Gronfa Aber (Cymorth i Fyfyrwyr), byddwch yn cefnogi prosiectau sy’n uniongyrchol yn cyfoethogi bywydau ein myfyrwyr ym meysydd Caledi Myfyrwyr, Lles Myfyrwyr a Chyfleoedd i Fyfyrwyr. Wrth ddyfarnu grantiau ledled adrannau academaidd ac adrannau cymorth allweddol, mae Cronfa Aber yn cyffwrdd â bywydau dros fil o fyfyrwyr bob blwyddyn.

 

 

Caledi Myfyrwyr | help llaw i’r rhai mewn angen

Cafodd Prifysgol Aberystwyth ei sefydlu ar y sail o gynnig addysg i bawb; mae’r ethos hwn yn parhau i fod yn bwysig iawn i ni. Rydym eisiau i’n myfyrwyr allu cyrraedd eu potensial yn llawn, waeth beth fo’u cefndir. Mae Cronfa Aber yn cyfrannu at yr ethos hwn drwy helpu i gefnogi’r myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol.                                                                                                                    

Lles Myfyrwyr | Ehangu Gorwelion y myfyrwyr

Mae Cronfa Aber yn cynorthwyo prosiectau sy’n gwella lles ein myfyrwyr, gan eu helpu i fod yn unigolion cyflawn sy’n gallu manteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau a’u bywyd myfyriwr. Mae’r prosiectau’n amrywio o gefnogi hyfforddiant datblygu chwaraeon, digwyddiadau diwylliannol, rhaglenni gwirfoddoli, a sesiynau lleddfu straen yn ystod cyfnod yr arholiadau. 

Cyfle i Fyfyrwyr | Ysbrydoli arweinwyr y dyfodol

Mae cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr wedi cyfrannu at amrywiaeth o leoliadau gwaith, interniaethau a digwyddiadau rhwydweithio sy’n ysgogi’r myfyrwyr i ymchwilio i’w diddordebau a chael gwell dealltwriaeth o’r llwybrau gyrfaol amrywiol sydd ar gael iddynt ar ôl y Brifysgol.