Hyfforddiant Ymchwil a Hyfforddiant Proffesiynol

Tom‌Hyfforddiant Uwchraddedig

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwil gwblhau modiwlau hyfforddiant ymchwil fel rhan o’u rhaglen astudio, yn ôl canllawiau Pwyllgor Uwchraddedig yr Adran, cyrff cyllido, y goruchwylwyr a’r myfyriwr. Bydd manylion am y cyrsiau’n cael eu dosbarthu ar ddechrau’r flwyddyn a gellir cael gwybodaeth o wefan yr Ysgol Uwchraddedig (gweler Rhaglen Ddatblygu’r Ymchwilydd). Disgwylir i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gyfer PhD gwblhau o leiaf 40 credyd o hyfforddiant ymchwil y Brifysgol yn ystod blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau, a disgwylir i bawb sydd wedi cofrestru am MPhil gwblhau o leiaf 10 credyd.

Gall myfyrwyr ddewis dilyn modiwlau Rhaglen Hyfforddi Uwchraddedig y Brifysgol ar unrhyw adeg (heb gael eu hasesu), gyda chytundeb y goruchwylwyr. Gellir gweld manylion am hyn hefyd ar wefan yr Ysgol Uwchraddedig.

Hyfforddiant Pellach drwy Weithdai Doethurol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant pellach ar gyfer datblygiad proffesiynol drwy gyfrwng Gweithdai Blynyddol i Raddedigion. Mae pynciau’r gweithdai doethurol yn cael eu dewis er mwyn darparu hyfforddiant perthnasol i fyfyrwyr ar bob cyfnod o’u hastudiaethau PhD:

Gweithdy i Raddedigion Blwyddyn Gyntaf: Ymddygiad Proffesiynol
Gweithdy i Raddedigion yr Ail Flwyddyn: Ysgol Ysgrifennu
Gweithdy i Raddedigion y Drydedd Flwyddyn: Tu Hwnt i’r PhD

Anogir myfyrwyr i fynychu gweithdai a drefnir gan UKGRAD hefyd. Mae’r rhain yn arbennig o ddefnyddiol i annog myfyrwyr uwchraddedig i wella eu sgiliau trosglwyddadwy.

‌Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Jesse

Anogir pob myfyriwr PhD a MPhil i ystyried a datblygu eu hyfforddiant ymchwil a’u sgiliau trosglwyddadwy drwy gyfrannu i’r Rhaglen Datblygu Proffesiynol Parhaus. Mae’r rhaglen yn caniatau i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau hynny trwy gydol eu cofrestriad, ar yr adegau mwyaf addas.

Dysgu ac Arddangos

Anogir holl fyfyrwyr ymchwil yr ADGD i gyfrannu i addysgu a dysgu israddedig fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus. Gall hyn olygu arwain tiwtorialau, arddangosfeydd ymarferol a rhywfaint o ddarlithio. Er mwyn darparu hyfforddiant dysgu i fyfyrwyr uwchraddedig, mae’r Brifysgol yn cynnig cyflwyniad i ddysgu fel rhan o’u digwyddiadau anwytho ddiwedd Medi. Mae’r Adran hefyd yn cynnig sesiynau addas yn fuan yn y flwyddyn academaidd er mwyn cefnogi myfyrwyr ymchwil sy’n dysgu.